OFFERYNNAU STATUDOL cYMRU
2012 Rhif 245 (Cy. 39)
HADAU, CYMRU
Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn gweithredu—
1. Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant;
2. Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd;
3. Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys;
4. Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau;
5. Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr;
6. Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 2002/55/EC a 2002/57/EC parthed enwau botanegol planhigion, enwau gwyddonol organebau eraill ac Atodiadau penodol i Gyfarwyddebau 66/401/EEC, 66/402/EEC, a 2002/57/EC yng ngoleuni datblygiadau mewn gwybodaeth wyddonol a thechnegol;
7. Cyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU sy’n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol ar gyfer marchnata cymysgeddau o hadau planhigion porthiant y bwriedir eu defnyddio i ddiogelu’r amgylchedd naturiol (OJ Rhif L 228, 31.8.2010, t.10);
8. Penderfyniad y Comisiwn 2011/180/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC parthed yr amodau y caniateir awdurdodi odanynt farchnata pecynnau bach o gymysgeddau o hadau safonol gwahanol amrywogaethau o lysiau o’r un rhywogaeth (OJ Rhif L 78, 24.3.2011, t.55).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu yn rhannol (fel y bo angen)—
9. Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol amaethyddol ac amrywogaethau amaethyddol sydd wedi ymaddasu'n naturiol i'r amodau lleol a rhanbarthol ac a fygythir gan erydu genetig, a marchnata hadau a thatws hadyd o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny; a
10. Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau o lysiau, yr arferid, yn draddodiadol, eu tyfu mewn ardaloedd a rhanbarthau penodol ac sydd dan fygythiad oherwydd erydu genetig, ac amrywogaethau o lysiau nad oes iddynt werth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol, ond a ddatblygwyd i'w tyfu o dan amodau penodol, ac ar gyfer marchnata hadau o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau presennol (a Rheoliadau diwygio perthynol) mewn perthynas â hadau ŷd, hadau planhigion porthiant, hadau planhigion olew a ffibr, hadau llysiau ac ynglŷn â chofrestru, trwyddedu a gorfodi hadau.
Rhannau rhagarweiniol o’r Rheoliadau hyn yw Rhannau 1 a 2, sy’n pennu’r gwahanol gategorïau o hadau.
Nodir y mathau o hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn Atodlen 1.
Mae Rhan 3 yn cynnwys gofynion ar gyfer marchnata hadau. Er mwyn eu marchnata, rhaid i’r hadau gydymffurfio â’r gofynion a bennir o ran ardystio, pecynnu, selio a labelu (rheoliad 8). Mae Atodlen 2 yn pennu’r gofynion ardystio ac mae Atodlen 3 yn pennu’r gofynion labelu ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwerthu hadau rhydd. Mae Atodlen 4 yn pennu eithriadau i’r gofynion cyffredinol.
Mae Rhan 3 yn gosod gofynion o ran cadw cofnodion (rheoliad 19).
O dan Ran 4, mae’n ofynnol cael trwydded i ymgymryd â rhai gweithrediadau megis marchnata hadau (rheoliad 20). Caiff Gweinidogion Cymru drwyddedu arolygwyr cnydau, samplwyr hadau a gorsafoedd profi hadau, i weithredu o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 21).
Mae Rhan 5 yn pennu darpariaethau gweinyddol (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer ffioedd) a darpariaethau trosiannol.
Yn unol ag adran 16(7) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, mae torri’r Rheoliadau yn dramgwydd y gellir ei gosbi, ar gollfarn ddiannod, â dirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes, y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus, mewn perthynas â throsi Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC, ar gael o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL cYMRU
2012 Rhif 245(Cy. 39)
HADAU, CYMRU
Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012
Gwnaed 1 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Chwefror 2012
Yn dod i rym 27 Chwefror 2012
CYNNWYs
4. Hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
7. Cynheiliaid ar gyfer hadau cyn-sylfaenol a sylfaenol
10. Gofynion gor-redol ar gyfer ardystio
11. Gofynion manwl ar gyfer ardystio
13. Safon hadau ar adeg eu marchnata
20. Gweithrediadau y mae trwydded gan Weinidogion Cymru yn ofynnol ar eu cyfer
21. Trwyddedu arolygwyr cnydau, samplwyr hadau a gorsafoedd profi hadau
22. Darpariaethau cyffredinol ynglŷn â thrwyddedau
24. Samplu at ddibenion gorfodi
25. Ffurfiau tystysgrifau a ddefnyddir ar gyfer gorfodi
26. Ardystio ar gyfer allforio
27. Mewnforio o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd
30. Marchnata hadau o dan randdirymiad penodol
32. Trwyddedu ac ardystio mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig
ATODLEN 1 — Hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
ATODLEN 3 — Labelu a gwerthiannau rhydd
RHAN 3 — Gofynion ychwanegol ynghylch labeli swyddogol ar gyfer rhywogaethau penodol
RHAN 5 — Gwerthiannau o hadau rhydd
RHAN 1 — Cyflenwi hadau ac eithrio drwy farchnata
RHAN 2 — Marchnata hadau nad ydynt yn cydymffurfio ag Atodlen 2
RHAN 3 — Ardystio hadau nad ydynt yn cydymffurfio’n llawn â’r Rheoliadau hyn
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4), (5) a (5A) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964([1]), ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy'n ymddangos yn berthnasol, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru ddehongli'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y Cyfarwyddebau a bennir yn rheoliad 3(2) fel cyfeiriadau at y Cyfarwyddebau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
RHAN 1
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau
(Cymru) 2012.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 27 Chwefror 2012.
2.—(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “marchnata”
(“marketing”) yw gwerthu, dal gyda golwg ar
werthu, cynnig ar werth neu unrhyw waredu, cyflenwi neu drosglwyddo
i drydydd partïon, sydd, ym mhob achos, yn amcanu i
elwa’n fasnachol ar hadau, boed yn gyfnewid am gydnabyddiaeth
ai peidio.
(2) Ond nid yw marchnata’n cynnwys masnachu nad yw’n amcanu i elwa’n fasnachol, megis—
(a) cyflenwi hadau i gyrff profi ac archwilio swyddogol; neu
(b) cyflenwi hadau i berson sy’n darparu gwasanaethau prosesu ond nad yw’n caffael teitl i’r hadau.
3.—(1)(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a) “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom National List”) yw’r rhestr o amrywogaethau planhigion a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â darpariaethau Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001([3]);
(b) y “Catalog Cyffredin” (“Common Catalogue”) yw’r catalog y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/53/EC ar y catalog cyffredin o amrywogaethau o rywogaethau planhigion amaethyddol([4]) ac yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau([5]).
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae pob cyfeiriad at—
(a) Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys([6]),
(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd([7]),
(c) Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant([8]),
(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr([9]),
(d) Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau,
(dd)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol amaethyddol ac amrywogaethau amaethyddol sydd wedi ymaddasu'n naturiol i'r amodau lleol a rhanbarthol ac a fygythir gan erydu genetig, ac at ddibenion marchnata hadau a thatws hadyd o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny([10]),
(e) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau o lysiau yr arferid, yn draddodiadol, eu tyfu mewn ardaloedd a rhanbarthau penodol ac sydd dan fygythiad oherwydd erydu genetig, ac amrywogaethau o lysiau nad oes iddynt werth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol, ond a ddatblygwyd i'w tyfu o dan amodau penodol, ac ar gyfer marchnata hadau o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny([11]), ac
(f) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU sy’n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol ar gyfer marchnata cymysgeddau o hadau planhigion porthiant y bwriedir eu defnyddio i ddiogelu’r amgylchedd naturiol([12]),
yn gyfeiriadau at y Cyfarwyddebau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
4.—(1)(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas
â hadau’r planhigion yn y golofn gyntaf o’r tabl
yn Atodlen 1, y bwriedir eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu
amaethyddol neu arddwriaethol, ond nid ydynt yn gymwys mewn
perthynas â hadau y bwriedir eu defnyddio ar gyfer planhigion
addurnol.
(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hadau y bwriedir eu hallforio i’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (ac eithrio rheoliad 26 sy’n ymwneud ag ardystio ar gyfer allforio).
5. Rhennir hadau i’r categorïau canlynol a adwaenir yn gyffredin yn ôl y talfyriadau a roddir—
(a) hadau bridiwr (“BR”);
(b) hadau cyn-sylfaenol (“PB”);
(c) hadau sylfaenol (“BS”);
(ch) hadau ardystiedig (“CS”);
(d) hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf (“C1”);
(dd) hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (“C2”);
(e) hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth (“C3”);
(f) hadau masnachol (“CM”);
(ff) hadau safonol (llysiau yn unig) (“ST”);
(g) hadau o safon wirfoddol uwch (“HVS”).
6. Hadau bridiwr yw hadau a gynhyrchir gan fridiwr, neu o dan gyfrifoldeb bridiwr ac y’u bwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol neu hadau sylfaenol.
Cynheiliaid ar gyfer hadau cyn-sylfaenol a sylfaenol
7. Ni cheir cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol a hadau sylfaenol ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig y person a restrir fel cynheiliad yr hadau hynny yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin.
8. Ni cheir marchnata hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt fel hadau os nad ydynt—
(a) wedi eu hardystio o dan reoliadau 10 a 11fel hadau o un o’r categorïau yn rheoliad 5;
(b) wedi eu pecynnu a’u selio yn unol â rheoliad 16;
(c) wedi eu labelu yn unol â rheoliad 17;
(ch) yn cael eu marchnata gan berson a drwyddedwyd i wneud hynny yn unol â rheoliad 20.
9.—(1)(1) Nid yw’r gofyniad i ardystio yn gymwys mewn
perthynas â hadau bridiwr.
(2) Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer marchnata hadau nad ydynt yn cydymffurfio’n llawn â rheoliad 8.
Gofynion gor-redol ar gyfer ardystio
(a) o amrywogaeth a gofnodwyd yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin;
(b) wedi eu tyfu o hadau sy’n gymwys ar gyfer cynhyrchu’r categori hwnnw yn unol ag Atodlen 2;
(c) yn dod o gnwd a archwiliwyd o dan y Rheoliadau hyn ac yr ardystiwyd ei fod yn cydymffurfio â gofynion Atodlen 2;
(ch) wedi eu profi yn unol â’r Rheoliadau hyn.
Gofynion manwl ar gyfer ardystio
11.—(1)(1) Er mwyn eu hardystio, rhaid cofnodi sampl o’r
hadau y caiff y cnwd ei gynhyrchu ohonynt gyda Gweinidogion Cymru,
mewn da bryd er mwyn rhoi digon o amser i Weinidogion Cymru dyfu
plot rheoli.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cofnodi sampl o’r hadau ar ôl yr amser hwnnw, ond mewn achos o'r fath, rhaid i’r cnwd a dyfir i gynhyrchu’r hadau gael ei archwilio gan arolygydd cnydau swyddogol yn unol â rheoliad 12.
(3) Rhaid i’r cnwd a ddefnyddir i gynhyrchu’r hadau gael ei archwilio gan arolygydd cnydau yn unol â’r darpariaethau sy’n ymwneud â’r cnwd hwnnw yn Atodlen 2, a rhaid i’r arolygydd cnydau ardystio—
(a) bod y cnwd yn cyrraedd y safon ar gyfer y cnwd hwnnw a bennir yn Atodlen 2, neu
(b) bod y cnwd yn cyrraedd safon is, ond er hynny’n cyrraedd un o’r safonau yn Atodlen 2,
a chyflwyno adroddiad i’r perwyl hwnnw i Weinidogion Cymru.
(4) Caiff yr arolygydd cnydau ddynodi bod angen gwneud gwaith adferol neu gynnal archwiliad pellach cyn ardystio bod y cnwd yn cyrraedd y safon ofynnol.
(5) Unwaith y bydd y cnwd wedi ei gynaeafu a’i brosesu, rhaid i samplwr hadau trwyddedig gymryd sampl o’r hadau (gan ddefnyddio dulliau samplu rhyngwladol cyfredol, i’r graddau y maent yn bodoli) yn unol â’r darpariaethau sy’n ymwneud â’r cnwd hwnnw yn Atodlen 2 (er mwyn osgoi amheuaeth, bydd meintiau y lotiau hadau a phwysau’r samplau yn cael eu pennu ym mhob un o’r Cyfarwyddebau yn yr Atodlen honno, sy’n ymdrin â’r hadau).
(6) Rhaid profi’r hadau mewn gorsaf brofi hadau (sydd naill ai wedi ei thrwyddedu neu’n cael ei gweithredu gan Weinidogion Cymru), a rhaid i’r orsaf honno brofi’r hadau (gan ddefnyddio dulliau samplu a phrofi rhyngwladol cyfredol, i’r graddau y maent yn bodoli) er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r safonau ardystio yn Atodlen 2, a dyroddi adroddiad prawf hadau sy’n datgan y canlyniadau, a chyflwyno’r adroddiad hwnnw i Weinidogion Cymru.
(a) cnwd a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol neu hadau sylfaenol, neu
(b) cnwd sy’n cynhyrchu hadau, pan gofnodir yr hadau o dan reoliad 11 yn rhy hwyr i ganiatáu i Weinidogion Cymru dyfu plot rheoli,
a rhaid i’r archwiliad, bryd hynny, gael ei gynnal gan arolygydd cnydau swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion archwiliadau o’r fath.
Safon hadau ar adeg eu marchnata
13. Ar yr adeg y cânt eu marchnata, rhaid i’r hadau gydymffurfio, o leiaf, â’r safonau yn Atodlen 2 sy’n ymwneud â’r math hwnnw o hadau.
14. Er mwyn osgoi amheuaeth, os ardystiwyd bod cnwd neu hadau yn perthyn i un categori, ond y cnwd neu’r hadau yn cydymffurfio â gofynion categori arall ar gyfer yr hadau hynny, ceir ailraddio’r cnwd neu’r hadau fel unrhyw gategori y mae, neu y maent, yn bodloni’r gofynion ar ei gyfer.
15.—(1)(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflawni unrhyw brofion
angenrheidiol ar yr hadau a gofnodir, ac yn benodol, rhaid iddynt
dyfu’r hadau mewn plot rheoli.
(2) Os bydd y profion neu’r plot rheoli’n bodloni’r gofynion o ran hunaniaeth amrywogaethol a phurdeb amrywogaethol, ni chymerir unrhyw gamau pellach.
(3) Fel arall, rhaid i Weinidogion Cymru gael rhagor o wybodaeth o gnydau a dyfir o’r hadau hynny ac, os penderfynant nad yw’r cnwd yn foddhaol, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd na cheir ardystio’r cnwd, neu fod rhaid ei israddio i gategori is.
16.—(1)(1) Rhaid i’r holl hadau, ac eithrio hadau a werthir yn
rhydd (ynglŷn â hynny gweler Rhan 5 o Atodlen 3), gael
eu cyflenwi mewn pecynnau seliedig, gan berson a drwyddedwyd i
wneud hynny o dan reoliad 20.
(2) Rhaid i’r hadau a becynnir fod mewn lotiau unffurf.
(3) Rhaid i becyn gael ei selio gan, neu o dan oruchwyliaeth, samplwr hadau trwyddedig.
(4) Rhaid i’r pecyn fod â system selio na ellir ei hailddefnyddio, neu gael ei selio mewn modd y byddai ei agor—
(a) yn difrodi’r system selio; neu
(b) yn gadael tystiolaeth o ymyrryd, naill ai ar y label neu ar y pecyn.
(5) Os agorir pecyn gan rywun ac eithrio’r defnyddiwr terfynol, rhaid ail-labelu’r pecyn a’i ailselio gan, neu o dan oruchwyliaeth, samplwr hadau trwyddedig, a rhaid datgan, ar y label, y ffaith ei fod wedi ei ailselio, y dyddiad yr ailseliwyd ef ddiwethaf a’r awdurdod sy’n gyfrifol amdano.
(6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â marchnata pecynnau bach o hadau fel y’u diffinnir yn Atodlen 3.
17.—(1)(1) Rhaid i’r holl hadau gael eu labelu yn unol ag
Atodlen 3 gan berson a
drwyddedwyd i wneud hynny o dan reoliad 20.
(2) Ni chaiff neb atgynhyrchu, tynnu ymaith, newid, difwyno, cuddio na chamddefnyddio mewn unrhyw ffordd unrhyw label a gynhyrchwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn.
18. Ni cheir marchnata cymysgedd o hadau onid yw’r cymysgedd yn un a ganiateir o dan y tabl canlynol.
Cymysgeddau a ganiateir
Pennawd colofn |
Betys |
Ydau |
Porthiant |
Olew a ffibr |
Llysiau |
Hadau y tu allan i gwmpas y Rheoliadau hyn |
Betys |
Na cheir |
Na cheir |
Na cheir |
Na cheir |
Na cheir |
Na cheir |
Ydau |
Na cheir |
Ceir(i) |
Ceir |
Na cheir |
Na cheir |
Na cheir |
Porthiant |
Na cheir |
Ceir |
Ceir |
Ceir |
Ceir |
Ceir |
Olew a ffibr |
Na cheir |
Na cheir |
Ceir |
Na cheir |
Na cheir |
Na cheir |
Llysiau |
Na cheir |
Na cheir |
Ceir |
Na cheir |
Ceir(ii) |
Na cheir |
(i) Caniateir cymysgedd o amrywogaethau o un rhywogaeth o hadau ŷd os, yn unig, yw’n effeithiol yn erbyn lledaenu organeb niweidiol. Rhaid i’r hadau i gyd gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn cyn eu cymysgu.
(ii) Rhaid marchnata cymysgedd o hadau safonol o wahanol amrywogaethau o’r un rhywogaeth mewn pecyn sy’n cynnwys dim mwy na 5kg o hadau (yn achos codlysiau), 500g o hadau (yn achos merllys, betys coch, moron, dail betys neu fetys ysbigoglys, gowrdiau, maros, nionod, radis, ysbigoglys neu faip) neu 100g o hadau (yn achos unrhyw rywogaeth arall).
Cofnodion
19.—(1)(1) Rhaid i unrhyw berson sy’n—
(a) marchnata hadau,
(b) yn pecynnu, selio, labelu, ailbecynnu, ailselio neu ail-labelu hadau i’w marchnata,
(c) yn paratoi cymysgeddau o hadau i’w marchnata, neu
(ch) yn glanhau, trin neu brosesu rywfodd arall hadau y bwriedir eu marchnata,
wneud cofnodion (naill ai mewn ysgrifen neu’n electronig) sy’n ddigonol i greu trywydd archwilio, fel gellir darganfod hunaniaeth a tharddiad unrhyw hadau sy’n cael eu marchnata, neu’r ymdrinnir â hwy rywfodd arall yn ystod y gweithrediad.
(2) Rhaid cadw’r cofnodion am 3 blynedd o leiaf, a’u dangos os gofynnir am eu gweld, i un o swyddogion Gweinidogion Cymru (yn achos cofnodion electronig, rhaid darparu allbrint).
Gweithrediadau y mae trwydded gan Weinidogion Cymru yn ofynnol ar eu cyfer
20.—(1)(1) Rhaid i unrhyw berson sy’n ymgymryd ag unrhyw un
o’r gweithrediadau canlynol fod wedi ei drwyddedu i wneud
hynny gan Weinidogion Cymru—
(a) marchnata hadau;
(b) pecynnu, selio neu labelu hadau;
(c) ailbecynnu, ailselio neu ail-labelu hadau;
(ch) paratoi cymysgeddau o hadau i’w marchnata;
(d) glanhau, trin neu brosesu mewn unrhyw ffordd arall hadau y bwriedir eu marchnata.
(2) Ond nid yw’r gofyniad am drwydded yn gymwys mewn perthynas â marchnata—
(a) pecynnau bach o hadau fel y’u diffinnir yn Atodlen 3;
(b) hadau nad ydynt wedi eu pecynnu; neu
(c) hadau, fel y’u tyfwyd, ar gyfer prosesu, ar yr amod y sicrheir hunaniaeth yr hadau o dan baragraff 2 o Atodlen 4.
Trwyddedu arolygwyr cnydau, samplwyr hadau a gorsafoedd profi hadau
21.—(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwyddedu arolygwyr cnydau,
samplwyr hadau a gorsafoedd profi hadau i weithredu o dan y
Rheoliadau hyn.
(2) Cyn trwyddedu arolygydd cnydau neu samplwr hadau, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod y person yn gymwys i weithredu fel y cyfryw, ac wedi pasio arholiad a bennir gan Weinidogion Cymru.
(3) Cyn trwyddedu gorsaf brofi hadau, rhaid i Weinidogion Cymru fodloni eu hunain bod gan yr orsaf fangre ddigonol, personél cymwysedig a chyfarpar ar gyfer profi at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(4) Caiff arolygydd cnydau, samplwr hadau neu orsaf brofi hadau a drwyddedwyd godi ffioedd rhesymol am ymgymryd â swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn ond ni chânt ennill unrhyw elw preifat mewn cysylltiad â chyflawni’r cyfryw swyddogaethau.
Darpariaethau cyffredinol ynglŷn â thrwyddedau
22.—(1)(1) Rhaid i drwydded fod yn ysgrifenedig, a cheir ei gwneud
yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau a ystyrir yn briodol gan
Weinidogion Cymru.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
23.—(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu ardystiad yn ôl
oddi ar unrhyw hadau os bodlonir hwy—
(a) bod yr hadau, neu’r hadau y tyfwyd ohonynt y cnwd a gynhyrchodd yr hadau, wedi eu samplu yn anghywir;
(b) nad oedd y cnwd y cynaeafwyd yr hadau ohono yn bodloni’r amodau yn Atodlen 2; neu
(c) nad oedd yr hadau—
(i) yn bodloni’r amodau yn Atodlen 2 pan brofwyd hwy; neu
(ii) nad ydynt bellach yn bodloni’r amodau hynny.
(2) Os tynnir ardystiad yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd.
(3) O fewn 7 diwrnod ar ôl ei hysbysu, rhaid i’r ceisydd hysbysu unrhyw berson y gwerthwyd neu y cyflenwyd yr hadau iddo.
24.—(1)(1) Rhaid i sampl o hadau a gymerir at ddibenion
gorfodi’r Rheoliadau hyn gael ei gymryd gan swyddog
awdurdodedig Gweinidogion Cymru, a rhaid iddo rannu’r sampl
yn dair rhan.
(2) Rhaid rhoi un rhan i berchennog yr hadau (neu gynrychiolydd y perchennog) a rhaid anfon y ddwy ran arall i orsaf brofi swyddogol, un ar gyfer profi a’r llall i’w chadw hyd nes ei dangos gerbron llys yn unol ag adran 26(7) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964([13]).
Ffurfiau tystysgrifau a ddefnyddir ar gyfer gorfodi
25.—(1)(1) At ddibenion adran 26(3) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau
Planhigion 1964, rhaid i dystysgrif o’r modd y cymerwyd sampl
at y diben o orfodi’r Rheoliadau hyn—
(a) cyfeirio at y Rheoliadau hyn, ac ardystio bod y sampl wedi ei gymryd a’i drin yn unol â rheoliad 24;
(b) pennu—
(i) enw a chyfeiriad y person a gymerodd y sampl;
(ii) y fangre lle y cymerwyd y sampl;
(iii) y math o hadau a samplwyd;
(iv) y dyddiad y cymerwyd y sampl;
(v) rhif cyfeirnod y lot o hadau;
(vi) y maint a samplwyd.
(2) At ddibenion adran 24(5) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, rhaid i dystysgrif o ganlyniad prawf a wnaed mewn gorsaf brofi hadau swyddogol, ar sampl a gymerwyd gan swyddog awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno—
(a) cyfeirio at y Rheoliadau hyn;
(b) enwi’r hadau a brofwyd;
(c) cynnwys yr holl ganlyniadau prawf mewn perthynas â’r safon ofynnol ar gyfer yr hadau hynny.
Mewnforio o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd
27.—(1)(1) Rhaid labelu hadau
a fewnforir o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd gyda
label a gymeradwyir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a
Datblygiad Economaidd([14]) ar gyfer yr ardystiad
amrywogaethol ar reolaeth hadau a symudir mewn masnach
ryngwladol.
(2) Os bwriedir lluosi’r hadau ymhellach, rhaid i’r person sy’n bwriadu eu lluosi gyflwyno sampl i Weinidogion Cymru yn gyntaf, ar gyfer ei wirio.
(3) Rhaid i berson sy’n marchnata hadau a fewnforiwyd o drydedd wlad ac sydd â’u pwysau’n fwy na dau gilogram, gyflenwi i Weinidogion Cymru, mewn ysgrifen ac o fewn un mis ar ôl marchnata’r hadau am y tro cyntaf, y manylion canlynol ynglŷn â’r hadau—
(a) y rhywogaeth;
(b) yr amrywogaeth;
(c) y categori;
(ch) y wlad lle’u cynhyrchwyd a’r awdurdod archwilio swyddogol;
(d) y wlad y’u hanfonwyd ohoni;
(dd) y mewnforiwr; ac
(e) y maint o hadau.
28.—(1)(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad gan
Weinidogion Cymru i—
(a) amrywio, atal dros dro, dirymu neu wrthod caniatáu trwydded arolygydd cnydau, samplwr hadau, gorsaf brofi hadau, neu berson y mae arno angen trwydded o dan reoliad 20,
(b) gwrthod ardystio hadau,
(c) tynnu ardystiad hadau yn ôl,
o fewn 21 diwrnod ar ôl ei hysbysu o’r penderfyniad, apelio yn erbyn y penderfyniad, i berson a benodir at y diben gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i’r person a benodir ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o fewn 21 diwrnod ynghyd ag argymhelliad ar sut i weithredu.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru wedyn wneud penderfyniad terfynol a hysbysu’r apelydd, ynghyd â’r rhesymau.
29. Caiff Gweinidogion Cymru godi ffi resymol am unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn.
Marchnata hadau o dan randdirymiad penodol
30. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu fel yr Aelod-wladwriaeth at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 217/2006 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Cyfarwyddebau’r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 2002/54/EC, 2002/55/EC a 2002/57/EC mewn perthynas ag awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ganiatáu dros dro farchnata hadau nad ydynt yn bodloni’r gofynion o ran yr egino lleiaf([15]).
31. Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â datgelu’r disgrifiad o gydrannau achyddol hadau, os yw bridiwr yr hadau yn gofyn iddynt beidio â’i ddatgelu.
Trwyddedu ac ardystio mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig
32.—(1)(1) Ceir marchnata yng Nghymru unrhyw hadau a ardystiwyd
mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.
(2) Caiff arolygydd cnydau, samplwr hadau neu orsaf brofi hadau a drwyddedwyd i weithredu fel y cyfryw mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig weithredu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn.
33.—(1)(1) Mae arolygydd cnydau, samplwr hadau neu orsaf brofi
hadau a oedd, ar yr adeg y daeth y Rheoliadau hyn i rym, wedi ei
drwyddedu neu ei thrwyddedu o dan Reoliadau Hadau (Cofrestru,
Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005([16]) yn parhau wedi ei drwyddedu neu
ei thrwyddedu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae person y mae’n ofynnol iddo fod yn drwyddedig o dan reoliad 20 o’r Rheoliadau hyn, ac a oedd, ar yr adeg y daeth y Rheoliadau hyn i rym, yn drwyddedig o dan Reoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005, yn awr yn drwyddedig i weithredu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau a hysbysir gan Weinidogion Cymru, a bydd yn parhau’n drwyddedig oni chaiff y drwydded ei hatal dros dro neu’i dirymu’n ddiweddarach gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn.
34. Dirymir y Rheoliadau canlynol—
(a) Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Cymru) 2004([17]);
(b) Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005([18]);
(c) Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) 2005([19]);
(ch) Rheoliadau Hadau Betys (Cymru) 2005([20]);
(d) Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005([21]);
(dd)Rheoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005([22]);
(e) Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) a Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) (Diwygio) 2006([23]);
(f) Rheoliadau Hadau (Cymru) (Diwygiadau ar gyfer Cynnal Profion a Threialu etc.) 2007([24]);
(ff) Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywogaethau Cadwraeth) (Cymru) 2009([25]);
(g) Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010([26]);
(ng) Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) (Diwygio) 2011([27]).
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
1 Chwefror 2012
ATODLEN 1 Rheoliad 4
Hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
Planhigion y mae’r Rheoliadau yn gymwys iddynt |
Enw cyffredin (fel canllaw yn unig) |
|
Betys |
||
Beta vulgaris L. |
betys siwgr, betys porthiant (gan gynnwys mangls) |
|
|
|
|
Ydau |
||
Avena nuda L. |
ceirch noeth |
|
Avena sativa L. (gan gynnwys A.byzantina K. Koch) |
ceirch a cheirch coch |
|
Hordeum vulgare L. |
haidd |
|
Secale cereale L. |
rhyg |
|
Triticum aestivum L. |
gwenith |
|
Triticum durum Desf. |
gwenith caled |
|
Triticum spelta L. |
gwenith yr Almaen |
|
x Triticosecale Wittm. ex A. Camus – hybridiau o ganlyniad i groesi rhywogaeth o’r genws Triticum gyda rhywogaeth o’r genws Secale |
rhygwenith |
|
Zea mays L. (partim) |
indrawn (ac eithrio popgorn ac india-corn) |
|
|
|
|
Planhigion porthiant |
||
Glaswelltau meinddail |
|
|
|
Agrostis canina L. |
maeswellt y cŵn |
|
Agrostis capillaris L. |
maeswellt cyffredin |
|
Agrostis gigantea Roth |
maeswellt mawr |
|
Agrostis stolonifera L. |
maeswellt rhedegog |
|
Festuca filiformis Pourr. |
peiswellt meinddail |
|
Festuca ovina L. |
peiswellt y defaid |
|
Festuca rubra L. |
peiswellt coch, peiswellt Chewing |
|
Festuca trachyphylla (Hack.) Krajina |
peiswellt caled |
|
Poa annua L. |
gweunwellt unflwydd |
|
Poa nemoralis L. |
gweunwellt y coed |
|
Poa pratensis L. |
gweunwellt llyfn |
|
Poa trivialis L. |
gweunwellt garw |
|
xFestulolium Asch. & Graebn. – hybridiau o ganlyniad i groesi rhywogaeth o’r genws Festuca gyda rhywogaeth o’r genws Lolium |
Festulolium |
|
|
|
Glaswelltau porthiant: |
|
|
|
Arrhenatherum elatius (L.) P.Beauv.ex J. Presl & C. Presl |
ceirchwellt tal |
|
Bromus catharticus Vahl. |
pawrwellt porthi |
|
Bromus sitchensis Trin. |
pawrwellt Alasga |
|
Dactylis glomerata L. |
troed y ceiliog |
|
Festuca arundinacea Schreber |
peiswellt tal |
|
Festuca pratensis Huds. |
peiswellt |
|
Lolium multiflorum Lam. |
rhygwellt yr Eidal gan gynnwys rhygwellt Westerworld |
|
Lolium perenne L. |
rhygwellt parhaol |
|
Lolium x boucheanum Kunth |
rhygwellt hydrid |
|
Phleum nodosum L. |
rhonwellt bach |
|
Phleum pratense L. |
rhonwellt |
|
|
|
Codlysiau hadau bach: |
|
|
|
Lotus corniculatus L. |
pys-y-ceirw |
|
Medicago lupulina L. |
maglys du |
|
Medicago sativa L. |
maglys rhuddlas |
|
Medicago x varia T. Martyn |
maglys y tywod |
|
Onobrychis viciifolia Scop. |
y godog |
|
Trifolium hybridum L. |
meillion Sweden |
|
Trifolium pratense L. |
meillion coch |
|
Trifolium repens L. |
meillion gwyn |
|
|
|
Codlysiau hadau mawr: |
|
|
|
Lupinus albus L. |
bysedd-y-blaidd gwyn |
|
Lupinus angustifolius L. |
bysedd y blaidd culddail |
|
Lupinus luteus L. |
bysedd-y-blaidd melyn |
|
Pisum sativum L. (partim) |
pys y maes |
|
Vicia faba L. (partim) |
ffa’r maes |
|
Vicia pannonica Crantz |
ffacbys Hwngari |
|
Vicia sativa L. |
ffacbys |
|
Vicia villosa Roth |
ffacbys tir âr |
|
|
|
Planhigion croesffurf: |
|
|
|
Brassica napus L. var. napobrassica (L.) Rchb. |
swêds |
|
Brassica oleracea L. convar. acephala (DC.) Alef. var. medullosa Thell. + var. viridis L. |
cêl porthiant |
|
Raphanus sativus L. var. oleiformis Pers. |
radis porthiant |
|
|
|
Planhigion olew a ffibr |
||
|
Brassica juncea (L.) Czern. |
mwstard brown |
|
Brassica napus L. (partim) |
rêp swêds (gan gynnwys planhigion a elwir yn gyffredin rêp porthiant a rêp had olew) |
|
Brassica nigra (L.) W.D.J. Koch |
mwstard du |
|
Brassica rapa L. var. silvestris (Lam.) Briggs |
rêp maip |
|
Cannabis sativa L. |
cywarch |
|
Glycine max (L.) Merr. |
ffa soia |
|
Helianthus annuus L. |
blodau’r haul |
|
Linum usitatissimum L. |
llin, had llin |
|
Sinapis alba L. |
mwstard gwyn |
|
|
|
Llysiau |
||
|
Allium cepa L. (Cepa Group) |
nionod, Echalion |
|
Allium porrum L. |
cennin |
|
Apium graveolens L. |
Seleri, seleriac |
|
Asparagus officinalis L. |
merllys |
|
|
|
|
Beta vulgaris L. |
betys gan gynnwys betys Cheltenham, betys ysbigoglys a dail betys |
|
Brassica oleracea L. |
ysgewyll Brwsel, blodfresych, bresych deiliog, colrabi, cabets coch, cabets crych, brocoli blaguro neu calabrese, cabets gwyn |
|
Brassica rapa L. |
cabets Tsieinia, maip |
|
Cichorium endivia L. |
ysgellog y meirch (cyrliog-ddail, syth-ddail) |
|
Cichorium intybus L. |
ysgellog (Eidalaidd) mawr-ddail |
|
Cucumis melo L. |
melonau |
|
Cucumis sativus L. |
Cucumerau, gercynau |
|
Cucurbita maxima Duchesne |
gowrdiau |
|
Cucurbita pepo L. |
maros neu courgettes |
|
Daucus carota L. |
moron, moron porthi |
|
Lactuca sativa L. |
letys |
|
Lycopersicon esculentum Mill |
tomatos |
|
Petroselinum crispum (Mill) Nyman ex A.W Hill |
persli |
|
Phaseolus coccineus L. |
ffa dringo |
|
Phaseolus vulgaris L. |
ffa Ffrengig (bach, dringol) |
|
Pisum sativum L. (partim) |
pys crych, pys crwn, pys siwgr |
|
Raphanus sativus L. |
radis, radis du |
|
Spinacia oleracea L. |
ysbigoglys |
|
Vicia faba L. (partim) |
ffa llydain |
|
Zea mays L. (partim) |
india-corn, popgorn |
ATODLEN 2 Rheoliadau 10, 11, 13 a 23
CYNNWYS
3. Mathau a ganiateir o hadau betys
4. Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”
9. Mathau a ganiateir o hadau ŷd
10. Ystyr “hadau cyn-sylfaenol” (gan gynnwys hybridiau)
13. Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”
14. Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”
16. Safonau gwirfoddol uwch ar gyfer ydau
17. Gofynion ychwanegol ar gyfer haidd, gwenith, gwenith caled a gwenith yr Almaen
21. Mathau a ganiateir o hadau porthiant
22. Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”
25. Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”
26. Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”
29. Safonau gwirfoddol uwch ar gyfer hadau porthiant
30. Safonau gofynnol o ran purdeb a rhywogaethau eraill o hadau yn y sampl
32. Mathau a ganiateir o hadau olew a ffibr
33. Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”
34. Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer amrywogaethau nad ydynt yn hybridiau
35. Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer llinellau mewnfrid
36. Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer hybridiau syml
38. Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”
39. Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”
40. Ystyr “hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth”
43. Gofynion ar gyfer uniad amrywogaethol
45. Mathau a ganiateir o hadau llysiau
46. Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”
1. Mae’r Rhan hon yn rheoleiddio’r math o fetys yn Atodlen 1.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “hadau uneginol” (“monogerm seed”) yw hadau sy’n uneginol yn enetig; a
(b) “hadau trachywir” (“precision seed”) yw hadau a baratowyd i’w defnyddio mewn heuwr trachywir i gynhyrchu eginblanhigion sengl.
Mathau a ganiateir o hadau betys
3. Rhaid i hadau betys fod yn—
(a) hadau cyn-sylfaenol;
(b) hadau sylfaenol; neu
(c) hadau ardystiedig.
4. Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—
(a) a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr, yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b) a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i) rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(ii) hadau sylfaenol; neu
(iii) gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig.
5. Hadau sylfaenol yw hadau—
(a) a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b) a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
6. Hadau ardystiedig yw hadau sy’n ddisgynyddion uniongyrchol hadau sylfaenol ac a fwriedir ar gyfer cynhyrchu betys.
7.—(1)(1) Rhaid i archwiliadau o’r cnydau gan arolygwyr
cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl
2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau
betys([28]) ac Atodiad I(A)
i’r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i’r cnwd fodloni’r
amodau yn yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Erthygl 9(2) o’r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad II iddi, a rhaid iddynt fodloni’r amodau yn Atodiad I(B) i’r Gyfarwyddeb honno.
(3) Rhaid i’r hadau gael eu labelu yn unol ag Atodiad III i’r Gyfarwyddeb honno.
(4) Rhaid i’r cynnwys lleithedd mwyaf beidio â bod yn fwy na 15% yn ôl pwysau.
(5) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy’n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
8. Mae’r Rhan hon yn rheoleiddio’r mathau o ydau yn Atodlen 1.
9.—(1)(1) Rhaid i hadau ŷd fod yn—
(a) hadau cyn-sylfaenol;
(b) hadau sylfaenol;
(c) hadau ardystiedig;
(ch) hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;
(d) hadau ardystiedig, ail genhedlaeth; neu
(dd) hadau o safon wirfoddol uwch.
(2) Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o rywogaethau ŷd o wahanol amrywogaethau ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd wedi ei hardystio ac yn effeithiol rhag lledaenu organebau niweidiol.
Ystyr “hadau cyn-sylfaenol” (gan gynnwys hybridiau)
10. Hadau cyn-sylfaenol (gan gynnwys hybridiau) yw hadau—
(a) a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol neu o hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b) a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i) rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(ii) hadau sylfaenol; neu
(iii) gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig o’r categorïau CS, C1 neu C2 (ni chaniateir cynhyrchu amrywogaethau hybrid i C1 neu C2).
Ystyr “hadau sylfaenol”
11. Hadau sylfaenol yw hadau sy’n cydymffurfio â’r amodau canlynol.
Math o ŷd |
Amod |
|
Amrywogaethau hunanbeilliol o geirch, ceirch noeth, haidd, rhyg, rhygwenith, gwenith, gwenith caled a gwenith yr Almaen |
Rhaid i’r hadau fod— |
|
(a) |
wedi eu cynhyrchu o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a |
|
|
(b) |
wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig o’r categorïau CS, C1 neu C2 |
|
|
|
Amrywogaethau hybrid o geirch, haidd, rhyg, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen, rhygwenith ac indrawn |
Rhaid i’r hadau fod wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu hybridiau |
|
|
|
|
Amrywogaethau o rywogaethau indrawn sy’n beillwyr agored |
Rhaid i’r hadau fod— |
|
|
(a) |
wedi eu cynhyrchu o dan gyfrifoldeb y bridiwr, yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; |
|
(b) |
wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu hadau o’r amrywogaeth honno o’r categori ‘hadau ardystiedig’ croesiad triphlyg, neu o amrywogaeth hybrid “top cross”, neu o hybridiau rhyngamrywogaethol |
|
|
|
Indrawn, llinellau mewnfrid |
Unrhyw hadau |
|
|
|
12. Hadau ardystiedig yw hadau—
(a) o ryg, indrawn neu rygwenith a hybridiau o haidd, ceirch, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen;
(b) sydd wedi eu cynhyrchu’n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol sy’n bodloni’r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac
(c) a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau ŷd.
Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”
13. Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf yw hadau—
(a) ceirch, haidd, rhygwenith, gwenith, gwenith caled, neu wenith yr Almaen, ac eithrio hybridiau ym mhob achos;
(b) sydd wedi eu cynhyrchu’n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy’n bodloni’r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac
(c) a fwriedir naill ai ar gyfer cynhyrchu hadau o’r categori ‘hadau ardystiedig, ail genhedlaeth’ neu at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau ŷd.
Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”
14. Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth yw hadau—
(a) ceirch, haidd, rhygwenith, gwenith, gwenith caled, neu wenith yr Almaen, ac eithrio hybridiau ym mhob achos;
(b) sydd wedi eu cynhyrchu’n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf, neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy’n bodloni’r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac
(c) a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau ŷd.
15.—(1)(1) Rhaid i archwiliadau o’r cnydau gan arolygwyr
cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl
2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau
ŷd([29]) ac Atodiad I i’r
Gyfarwyddeb honno, a rhaid i’r cnwd fodloni’r amodau yn
yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad III iddi, a rhaid iddynt fodloni’r amodau yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno.
(3) Rhaid i’r cynnwys lleithedd mwyaf beidio â bod yn fwy na 17% yn ôl pwysau.
(4) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy’n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
Safonau gwirfoddol uwch ar gyfer ydau
16.—(1)(1) Ceir marchnata haidd, ceirch, gwenith (gan gynnwys gwenith
caled a gwenith yr Almaen) neu geirch noeth, a ddosbarthwyd yn
hadau sylfaenol neu’n hadau ardystiedig o’r
categorïau C1 neu C2, fel hadau o safon wirfoddol uwch, sef
safon uwch na’r un a reoleiddir o dan Bennod 1, os ydynt yn
bodloni’r safonau uwch yn y Bennod hon.
(2) Rhaid i burdeb rhywogaethol y cnwd fod yn 99.99% o leiaf (yn ôl nifer).
(3) Ac eithrio hybrid, y purdeb amrywogaethol lleiaf ar gyfer hadau yw—
(a) 99.95% ar gyfer hadau sylfaenol;
(b) 99.9% ar gyfer hadau C1;
(c) 99.7% ar gyfer hadau C2.
(4) Yn achos C1 ac C2 rhaid i burdeb dadansoddol yr hadau fod yn 99% yn ôl pwysau.
Gofynion ychwanegol ar gyfer haidd, gwenith, gwenith caled a gwenith yr Almaen
17. Yn achos haidd, gwenith, gwenith caled a gwenith yr Almaen—
(a) y nifer mwyaf o geirch gwyllt mewn cnwd fydd 7 am bob hectar.
(b) y ganran fwyaf yn ôl nifer o’r heintiad penddu mewn hadau fydd—
(i) 0.1% ar gyfer hadau sylfaenol;
(ii) 0.2% ar gyfer hadau C1 ac C2.
18. Rhaid i’r nifer o hadau o rywogaethau planhigion eraill mewn sampl o 1000g beidio â bod yn fwy na’r canlynol.
Hadau o rywogaethau eraill
Pob rhywogaeth arall o blanhigion (gan gynnwys rhywogaethau a bennir yng ngholofnau 3 i 6) |
Rhywogaethau ŷd eraill |
Pob rhywogaeth o blanhigion ac eithrio ydau |
Ceirch gwyllt neu efrau |
Rhuddygl gwyllt, bulwg yr ŷd, pawrwellt anhiliog neu farchwellt |
|
Hadau sylfaenol |
1 |
0 |
1 |
0 |
0(a) |
C1 |
2 |
1 |
1 |
0 |
1 |
C2 |
4 |
3 |
2 |
0 |
1 |
(a) Mewn perthynas â rhuddygl gwyllt a bulwg yr ŷd yn unig.
Mallryg a sglerotia
19. Mewn sampl o 1000g—
(a) yn achos hadau sylfaenol, rhaid bod dim mallryg na sglerotia;
(b) yn achos hadau ardystiedig (C1 neu C2) rhaid bod dim mwy nag un darn o fallryg neu sglerotia.
RHAN 3
Cwmpas Rhan 3
20. Mae’r Rhan hon yn rheoleiddio’r mathau o blanhigion porthiant yn Atodlen 1.
Mathau a ganiateir o hadau porthiant
21.—(1)(1) Rhaid i hadau porthiant fod yn—
(a) hadau cyn-sylfaenol;
(b) hadau sylfaenol;
(c) hadau ardystiedig;
(ch) hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;
(d) hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;
(dd) hadau masnachol; neu
(e) hadau o safon wirfoddol uwch.
(2) Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o rywogaethau porthiant o wahanol amrywogaethau ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd wedi ei hardystio.
22. Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—
(a) a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b) a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i) rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(ii) hadau sylfaenol; neu
(iii) gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig CS, C1 neu C2.
23.—(1)(1) Hadau sylfaenol yw hadau—
(a) amrywogaethau a fridiwyd; neu
(b) amrywogaethau lleol.
(2) Hadau amrywogaethau a fridiwyd yw hadau—
(a) a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;
(b) a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
(3) Hadau amrywogaethau lleol yw hadau—
(a) a gynhyrchwyd o dan reolaeth swyddogol, allan o ddeunydd y derbyniwyd ei fod o’r amrywogaeth leol, ar un neu ragor o ddaliadau o fewn rhanbarth tarddiad y diffiniwyd ei derfynau yn eglur;
(b) a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
24. Hadau ardystiedig yw hadau (ac eithrio ffa’r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa), bysedd-y-blaidd a ffacbys)—
(a) sydd wedi eu cynhyrchu yn uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy’n bodloni’r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac
(b) a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau.
Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”
25. Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf mewn perthynas â ffa’r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa) bysedd-y-blaidd a ffacbys yw hadau—
(a) sydd wedi eu cynhyrchu’n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy’n bodloni’r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a
(b) a fwriedir ar gyfer—
(i) cynhyrchu hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (yn achos ffa’r maes a phys y maes yn unig); neu
(ii) dibenion ac eithrio cynhyrchu hadau (ym mhob achos).
Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”
26. Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth mewn perthynas â ffa’r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa) bysedd-y-blaidd a ffacbys yw hadau—
(a) sydd wedi eu cynhyrchu’n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf (C1), neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy’n bodloni’r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a
(b) a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion porthiant.
27. Hadau masnachol yw hadau gweunwellt unflwydd, ffacbys Hwngari neu’r godog, y gellir eu hadnabod fel rhai sy’n perthyn i rywogaeth.
Gofynion cnydau a hadau
28.—(1)(1) Rhaid i archwiliadau o’r cnydau gan arolygwyr
cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl
2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau
planhigion porthiant([30]) ac Atodiad I i’r
Gyfarwyddeb honno, a rhaid i’r cnwd fodloni’r amodau yn
yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Atodiad III i’r Gyfarwyddeb honno, a rhaid iddynt fodloni’r amodau yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno.
(3) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy’n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
PENNOD 2
Safonau gwirfoddol uwch ar gyfer hadau porthiant
29. Yn achos troed y ceiliog, festulolium, rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, maglys rhuddlas, peiswellt, rhygwellt parhaol, meillion coch, peiswellt coch, y godog, rhonwellt bach, rhonwellt, gweunwellt llyfn, peiswellt tal a meillion gwyn, ceir marchnata hadau ardystiedig (CS) fel hadau ardystiedig o safon wirfoddol uwch.
Safonau gofynnol o ran purdeb a rhywogaethau eraill o hadau yn y sampl
30. Rhaid i’r sampl a gymerir o dan baragraff 28(2) at ddiben Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC gyrraedd y safonau gofynnol a bennir yn y tabl canlynol.
Pennawd colofn |
Purdeb dadansoddol gofynnol (% yn ôl pwysau) |
Cyfanswm pwysau’r holl rywogaethau eraill (% yn ôl pwysau) |
Cyfanswm pwysau un rhywogaeth unigol arall (% yn ôl pwysau) |
Hadau Rumex spp ac eithrio R acetosella ac R maritimus |
Hadau marchwellt |
Hadau cynffonwellt du |
Terfynau ar gyfer rhywogaethau penodol eraill |
Glaswelltau meinddail |
|
|
|
|
|
|
|
festulolium |
98 |
1.5 |
0 |
0 |
10 |
0 |
|
peiswellt coch |
95 |
1.5 |
0.5 |
5 |
10 |
10 |
Ni chaiff y sampl gynnwys mwy na phedwar hedyn o rygwellt, troed y ceiliog, peiswellt a 0.3% gweunwellt garw |
gweunwellt llyfn |
90 |
1.5 |
0.5 |
2 |
3 |
3 |
Uchafswm o 0.4% yn ôl pwysau o hadau gweunwelltau eraill |
Glaswelltau porthiant |
|
|
|
|
|
|
|
troed y ceiliog |
90 |
1.5 |
0.5 |
5 |
10 |
10 |
|
peiswellt, peiswellt tal |
98 |
1.5 |
0.5 |
5 |
10 |
10 |
0.3% gweunwellt garw, 0.3% rhygwellt |
rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, rhygwellt parhaol |
98 |
1.5 |
0.5 |
5 |
10 |
10 |
0.4% gweunwellt unflwydd, 0.3% gweunwellt garw |
rhonwellt bach, rhonwellt |
98 |
1.5 |
0.5 |
4 |
10 |
10 |
0.3% Agrostis spp |
Codlysiau hadau bach |
|
|
|
|
|
|
|
maglys rhuddlas, meillion coch, meillion gwyn |
98 |
1.5 |
0.5 |
10 |
10 |
10 |
0.3% Melitotus spp |
y godog |
98 |
1.5 |
0.5 |
5 |
10 |
10 |
0.3% Melitotus spp |
RHAN 4
31. Mae’r Rhan hon yn rheoleiddio’r mathau o blanhigion olew a ffibr yn Atodlen 1.
Mathau a ganiateir o hadau olew a ffibr
32. Rhaid i hadau olew a ffibr fod yn—
(a) hadau cyn-sylfaenol;
(b) hadau sylfaenol;
(c) hadau ardystiedig;
(ch) hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;
(d) hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;
(dd) hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth; neu
(e) hadau masnachol.
33.—(1)(1) “Hadau cyn-sylfaenol” yw hadau cenhedlaeth
gynharach na hadau sylfaenol—
(a) sydd wedi eu cynhyrchu gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth, a
(b) a fwriedir i’w defnyddio i gynhyrchu mwy o hadau cyn-sylfaenol, hadau sylfaenol, neu, gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr—
(i) yn achos mwstard du, mwstard brown, cywarch deuoecaidd, blodau’r haul, rêp swêds, rêp maip, neu fwstard gwyn, hadau CS;
(ii) yn achos cywarch monoecaidd neu ffa soia, hadau C1 neu C2;
(iii) yn achos llin neu had llin, hadau C1, C2 neu C3.
(2) Ond mewn perthynas â chydran mewn amrywogaeth hybrid, ystyr “hadau cyn-sylfaenol” yw hadau o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol, a fwriedir i’w defnyddio i gynhyrchu—
(a) rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(b) hadau sylfaenol; neu
(c) gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau CS.
Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer amrywogaethau nad ydynt yn hybridiau
34. Yn achos amrywogaeth nad yw’n hybrid, hadau sylfaenol yw hadau—
(a) a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;
(b) a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i) hadau ardystiedig,
(ii) hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf,
(iii) hadau ardystiedig, ail genhedlaeth; neu
(iv) hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth.
Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer llinellau mewnfrid
35. Yn achos llinell fewnfrid, hadau sylfaenol yw hadau llinell fewnfrid o hybrid, sy’n bodloni’r amodau ar gyfer hadau sylfaenol.
Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer hybridiau syml
36. Yn achos hybrid syml, hadau sylfaenol yw hadau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hybridiau.
37. Hadau ardystiedig yw hadau mwstard du, mwstard Tsieina, mwstard gwyn, cywarch deuoceaidd, blodau’r haul, rêp swêds neu rêp maip—
(a) sydd wedi eu cynhyrchu’n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol, sy’n bodloni’r amodau ar gyfer hadau sylfaenol;
(b) a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion olew neu ffibr.
Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”
38. Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf yw hadau cywarch monoecaidd, llin, had llin neu soia—
(a) sydd wedi eu cynhyrchu’n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy’n bodloni’r amodau ar gyfer hadau sylfaenol;
(b) a fwriedir ar gyfer cynhyrchu naill ai—
(i) hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;
(ii) pan fo’n briodol, hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth; neu
(iii) at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion olew neu ffibr.
Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”
39.—(1)(1) Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth yw hadau llin, had
llin, soia neu gywarch monoecaidd.
(2) Yn achos llin, had llin a soia, maent yn hadau—
(a) sydd wedi eu cynhyrchu’n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig o’r genhedlaeth gyntaf, neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy’n bodloni’r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a
(b) a fwriedir—
(i) at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau, neu,
(ii) pan fo’n briodol, cynhyrchu hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth.
(3) Yn achos cywarch monoceaidd, maent yn hadau—
(a) sydd wedi eu cynhyrchu’n uniongyrchol o hadau ardystiedig o’r genhedlaeth gyntaf, a sefydlwyd ac a reolwyd yn swyddogol gyda golwg ar gynhyrchu hadau ardystiedig o’r ail genhedlaeth; a
(b) a fwriedir ar gyfer cynhyrchu cywarch sydd i’w gynaeafu yn ei flodau.
Ystyr “hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth”
40. Hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth yw hadau o lin neu had llin—
(a) sy’n ddisgynyddion uniongyrchol hadau sylfaenol, hadau ardystiedig o’r genhedlaeth gyntaf neu’r ail neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol; a
(b) a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau.
41. Hadau masnachol (hadau mwstard du yn unig) yw hadau y gellir eu hadnabod fel rhai sy’n perthyn i rywogaeth.
Gofynion cnydau a hadau
42.—(1)(1) Rhaid i archwiliadau o’r cnydau gan arolygwyr
cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl
2(5)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau
planhigion olew a ffibr([31]) ac Atodiad I i’r
Gyfarwyddeb honno, a rhaid i’r cnwd fodloni’r amodau yn
yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Atodiad III i’r Gyfarwyddeb honno, a rhaid iddynt fodloni’r amodau yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno.
(3) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy’n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
Gofynion ar gyfer uniad amrywogaethol
43.—(1)(1) Rhaid i hadau sy’n cael eu marchnata fel uniad
amrywogaethol gydymffurfio â’r paragraff
hwn.
(2) Rhaid i’r uniad amrywogaethol fod yn uniad rhwng hadau CS ardystiedig amrywogaeth hybrid peillydd-ddibynnol benodedig, a hadau CS ardystiedig un neu ragor o amrywogaethau peillydd penodedig, a rhaid i’r ddau fath o hadau fod wedi eu derbyn ar Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin.
(3) Rhaid i hadau’r cydrannau benyw a gwryw mewn uniad amrywogaethol fod wedi eu trin gan ddefnyddio sylweddau trin hadau o liwiau gwahanol.
(4) Rhaid cyfuno’r hadau yn fecanyddol yn y cyfrannau a benderfynwyd ar y cyd gan y personau sy’n gyfrifol am gynnal y cydrannau dan sylw.
(5) Rhaid hysbysu Gweinidogion Cymru o’r cyfrannau hyn, gan y person sy’n gyfrifol am gynnal yr hybrid peillydd-ddibynnol a’r peillyddion sydd o fewn yr uniad amrywogaethol.
(6) Yn y paragraff hwn—
(a) ystyr “hybrid peillydd-ddibynnol” (“pollinator-dependent hybrid”) yw’r gydran wryw-anhiliog o fewn yr uniad amrywogaethol (y gydran fenyw);
(b) ystyr “peillydd” (“pollinator”) yw cydran sy’n gollwng paill o fewn uniad amrywogaethol.
44. Mae’r Rhan hon yn rheoleiddio’r mathau o lysiau yn Atodlen 1.
Mathau a ganiateir o hadau llysiau
45. Rhaid i hadau llysiau fod yn—
(a) hadau cyn-sylfaenol;
(b) hadau sylfaenol; neu
(c) hadau ardystiedig; neu
(ch) hadau safonol.
(2) Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o wahanol amrywogaethau o’r un rhywogaeth o lysiau, ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd yn hadau safonol.
46. Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—
(a) a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b) a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i) rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(ii) hadau sylfaenol; neu
(iii) gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig.
47.—(1)(1) Hadau sylfaenol yw hadau—
(a) a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;
(b) a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
(2) Er mwyn osgoi amheuaeth, mae hyn yn cynnwys hadau y bwriedir iddynt fod yn gydran o amrywogaeth hybrid o lysieuyn.
48. Hadau ardystiedig yw hadau—
(a) sydd wedi eu cynhyrchu’n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol sy’n bodloni’r amodau ar gyfer hadau sylfaenol;
(b) a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu llysiau.
49. Hadau safonol yw hadau a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu llysiau, ac sydd wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru fel hadau sydd â phurdeb amrywogaethol a hunaniaeth amrywogaethol digonol.
50.—(1)(1) Rhaid i archwiliadau o’r cnydau gan arolygwyr
cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl
2(4)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau
llysiau([32]) ac Atodiad I i’r
Gyfarwyddeb honno, a rhaid i’r cnwd fodloni’r amodau yn
yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Erthygl 25 o’r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad III iddi, a rhaid iddynt fodloni’r amodau yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos hadau safonol.
(4) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy’n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
(5) Ar ôl eu marchnata, mae hadau llysiau yn ddarostyngedig i reolaeth gan Weinidogion Cymru, o ran hunaniaeth amrywogaethol a phurdeb amrywogaethol.
ATODLEN 3 Rheoliadau 16 a 17
Labelu a gwerthiannau rhydd
3. Amrywogaethau a addaswyd yn enetig
5. Labeli swyddogol: gofynion cyffredinol
6. Labeli swyddogol ar gyfer hadau cyn-sylfaenol
7. Labeli swyddogol ar gyfer hadau sylfaenol a hadau ardystiedig
8. Labeli swyddogol ar gyfer hadau masnachol sydd heb eu hardystio o ran amrywogaeth
Gofynion ychwanegol ynghylch labeli swyddogol ar gyfer rhywogaethau penodol
11. Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau betys
12. Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau ŷd
13. Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau porthiant
14. Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau olew a ffibr
17. Cyfeiriadau at bwysau yn y Rhan hon
18. Hadau bridiwr: labeli cyflenwr
19. Hadau betys: labeli cyflenwr
21. Hadau porthiant (amaethyddol neu amwynderol): pecynnau y caniateir eu labelu gyda label cyflenwr
22. Hadau porthiant ac eithrio cymysgedd: gofynion labelu
23. Cymysgedd o hadau porthiant: gofynion labelu
24. Hadau olew a ffibr: labeli cyflenwr
25. Hadau llysiau: labeli cyflenwr
26. Gwerthiannau o hadau rhydd
1.—(1)(1) Mae dau fath o label ar gyfer hadau, sef labeli
swyddogol a labeli cyflenwr.
(2) Rhaid defnyddio label cyflenwr ar becyn o hadau bridiwr, a chaniateir ei ddefnyddio ar becyn bach o hadau fel a bennir yn Rhan 4 o’r Atodlen hon ac ar becyn o hadau llysiau safonol o unrhyw faint.
(3) Rhaid defnyddio label swyddogol ar unrhyw becyn arall o hadau.
2. Rhaid labelu pecyn ar yr adeg y caiff ei selio.
Amrywogaethau a addaswyd yn enetig
3. Os yw amrywogaeth wedi ei haddasu yn enetig, rhaid datgan hynny ar y label.
4. Os rhoddwyd unrhyw driniaeth gemegol i hadau, rhaid datgan y ffaith honno ar y label, a natur y driniaeth neu enw perchnogol y cemegyn a ddefnyddiwyd.
Labeli swyddogol: gofynion cyffredinol
5.—(1)(1) Label swyddogol yw label a gyflenwir gan Weinidogion
Cymru.
(2) Rhaid iddo fod ar y tu allan i’r pecyn.
(3) Rhaid iddo beidio â bod wedi ei ddefnyddio o’r blaen.
(4) Rhaid iddo fod naill ai’n adlynol neu wedi ei gysylltu gyda dyfais selio a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.
(5) Rhaid iddo fod mewn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.
(6) Rhaid iddo fod yn 110 mm x 67 mm o leiaf.
(7) Rhaid iddo ddwyn rhif unigryw.
(8) Rhaid iddo gael ei osod ynghlwm wrth y pecyn gan swyddog awdurdodedig Gweinidogion Cymru, samplwr hadau trwyddedig neu unrhyw berson sy’n cael ei oruchwylio gan berson o’r fath.
(9) Fel rhanddirymiad o’r uchod, yn achos hadau ŷd, hadau porthiant a hadau olew a ffibr a ddosbarthwyd, ym mhob achos, fel CS, C1, C2 neu C3, ceir defnyddio’r bag cyfan fel y label, ar yr amod y gwneir hynny gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru a bod y bag o’r un lliw â’r lliw sy’n ofynnol ar gyfer y label.
Labeli swyddogol ar gyfer hadau cyn-sylfaenol
6.—(1)(1) Rhaid i’r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar
hadau cyn-sylfaenol—
(a) enw’r awdurdod ardystio;
(b) enw neu flaenlythrennau’r Aelod-wladwriaeth;
(c) rhif cyfeirnod y lot hadau;
(ch) y wlad y’u cynhyrchwyd ynddi;
(d) mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed …” (mis a blwyddyn);
(dd) y rhywogaeth (rhaid defnyddio’r enw botanegol, y ceir ei roi yn ei ffurf gryno a heb gynnwys enwau’r awdurdodau, ac eithrio yn achos hadau betys neu lysiau, pryd y caniateir defnyddio’r enw cyffredin);
(e) yr amrywogaeth;
(f) y disgrifiad “pre-basic” neu “PB”;
(ff) y pwysau net neu gros datganedig neu’r nifer datganedig o hadau (neu, yn achos betys, y nifer datganedig o glystyrau neu hadau pur);
(g) os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o’r gymhareb rhwng pwysau’r hadau a chyfanswm y pwysau (neu, yn achos betys, y gymhareb rhwng pwysau’r hadau pur a chyfanswm y pwysau);
(ng) nifer y cenedlaethau a ragflaenodd y categori “hadau ardystiedig (CS)” neu “hadau ardystiedig cenhedlaeth gyntaf (C1)”.
(2) Rhaid i’r label fod yn wyn, gyda streipen groeslinol fioled ar ei draws.
Labeli swyddogol ar gyfer hadau sylfaenol a hadau ardystiedig
7.—(1)(1) Rhaid i’r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar
hadau ardystiedig—
(a) y geiriau “EU Rules and standards”;
(b) enw’r awdurdod ardystio;
(c) enw neu flaenlythrennau’r Aelod-wladwriaeth;
(ch) rhif cyfeirnod y lot hadau;
(d) naill ai—
(i) mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed …” (mis a blwyddyn); neu
(ii) mis a blwyddyn y samplu swyddogol diwethaf at ddibenion ardystio, a fynegir fel “sampled …” (mis a blwyddyn);
(dd) y rhywogaeth (rhaid defnyddio’r enw botanegol, naill ai’n llawn neu yn ei ffurf gryno, ac eithrio yn achos hadau betys neu lysiau, pryd y caniateir defnyddio’r enw cyffredin);
(e) yr amrywogaeth;
(f) y categori;
(ff) y wlad y’u cynhyrchwyd ynddi;
(g) y pwysau net neu gros datganedig neu’r nifer datganedig o hadau neu, yn achos betys, y nifer datganedig o glystyrau o hadau pur;
(ng) os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o’r gymhareb rhwng pwysau’r hadau a chyfanswm y pwysau (neu, yn achos betys, y gymhareb rhwng pwysau’r hadau pur a chyfanswm y pwysau);
(h) os yw’r egino wedi ei ailbrofi, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi.
(2) Rhaid i’r label fod o liw—
(a) gwyn ar gyfer hadau sylfaenol;
(b) glas ar gyfer hadau ardystiedig a hadau ardystiedig o’r genhedlaeth gyntaf;
(c) coch ar gyfer hadau ardystiedig o’r ail a’r drydedd genhedlaeth.
Labeli swyddogol ar gyfer hadau masnachol sydd heb eu hardystio o ran amrywogaeth
8.—(1)(1) Rhaid i’r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar hadau
masnachol sydd heb eu hardystio o ran amrywogaeth—
(a) y geiriau “EU Rules and standards”;
(b) enw’r awdurdod ardystio;
(c) enw neu flaenlythrennau’r Aelod-wladwriaeth;
(ch) rhif cyfeirnod y lot hadau;
(d) naill ai—
(i) mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed …” (mis a blwyddyn); neu
(ii) mis a blwyddyn y samplu swyddogol diwethaf at ddibenion ardystio, a fynegir fel “sampled …” (mis a blwyddyn);
(dd) y rhywogaeth (rhaid defnyddio’r enw botanegol, naill ai’n llawn neu yn ei ffurf gryno, ac eithrio, yn achos hadau betys neu lysiau, pan ganiateir defnyddio’r enw cyffredin);
(e) y geiriau “commercial seed not certified as to variety”;
(f) y wlad neu’r rhanbarth y’u cynhyrchwyd ynddi;
(ff) y pwysau net neu gros datganedig neu’r nifer datganedig o hadau;
(g) os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o’r gymhareb rhwng pwysau’r hadau a chyfanswm y pwysau;
(ng) pan fo’r egino wedi ei ailbrofi, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi.
(2) Rhaid i’r label fod o liw brown.
9.—(1)(1) Rhaid i’r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar
gymysgedd o hadau—
(a) yr awdurdod sy’n gyfrifol am selio’r pecyn;
(b) enw neu flaenlythrennau’r Aelod-wladwriaeth;
(c) rhif cyfeirnod y lot hadau;
(ch) mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed …” (mis a blwyddyn);
(d) y rhywogaeth, y categori, yr amrywogaeth, y wlad y’i cynhyrchwyd ynddi a’r gyfran yn ôl pwysau ar gyfer pob un o’r cydrannau;
(dd) y pwysau net neu gros datganedig neu’r nifer datganedig o hadau;
(e) pan ddynodir y pwysau, ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o’r gymhareb rhwng pwysau’r hadau pur a chyfanswm y pwysau;
(f) pan fo pob un o gydrannau’r cymysgedd wedi eu hailbrofi o ran egino, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi;
(ff) yn achos ydau, y geiriau “mixture of” a ddilynir gan y rhywogaethau a’r amrywogaethau a datganiad cymhwyso bod y cymysgedd yn effeithiol rhag lledaenu organeb niweidiol;
(g) yn achos planhigion porthiant, y geiriau “mixture of seeds for” a ddilynir gan ddisgrifiad o’r defnydd y bwriedir ar eu cyfer.
(2) Ond ar gyfer cymysgeddau porthiant a gofrestrwyd gyda Gweinidogion Cymru, os yw’r label yn dangos enw cofrestredig y cymysgedd, caniateir hepgor y canrannau yn ôl pwysau o bob un o’r cydrannau, ar yr amod—
(a) y cyflenwir yr wybodaeth honno i’r cwsmer os gofynnir amdani, a
(b) y rhoddir gwybod i gwsmeriaid y cânt ofyn am y manylion hyn.
(3) Rhaid i’r label fod o liw gwyrdd.
Gofynion ychwanegol ynghylch labeli swyddogol ar gyfer rhywogaethau penodol
10. Mae’r gofynion canlynol, sydd ar gyfer rhywogaethau penodol, yn ychwanegol at y gofynion yn Rhan 2.
Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau betys
11. Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau betys bennu—
(a) “monogerm” neu “precision” fel y bo’n briodol;
(b) “fodder beet” neu “sugar beet” fel y bo’n briodol.
Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau ŷd
12.—(1)(1) Rhaid i label swyddogol ar gyfer haidd noeth C1 ac C2
gynnwys y geiriau “minimum germination capacity
75%”.
(2) Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau ŷd sylfaenol o amrywogaethau sy’n hybridiau neu’n llinellau mewnfrid gynnwys—
(a) ar gyfer hadau sylfaenol pan fo’r hybrid neu’r llinell fewnfrid y mae’r hadau yn perthyn iddo neu iddi wedi ei dderbyn neu wedi ei derbyn ar Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin, yr enw y’i derbyniwyd yn swyddogol odano, gyda chyfeiriad at yr amrywogaeth derfynol neu hebddo, ac os bwriedir yr hadau yn unig fel cydran ar gyfer amrywogaethau terfynol, y gair “component”;
(b) ar gyfer hadau sylfaenol mewn achosion eraill, enw’r gydran y mae’r hadau sylfaenol yn perthyn iddi, y caniateir ei ddangos ar ffurf cod, ynghyd â chyfeiriad at yr amrywogaeth derfynol, gan gyfeirio neu beidio at ei swyddogaeth (gwryw neu fenyw) ynghyd â’r gair “component”.
(3) Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau ŷd ardystiedig (CS, C1 neu C2) o amrywogaethau sy’n hybridiau neu’n llinellau mewnfrid gynnwys y gair “hybrid” ar ôl yr amrywogaeth.
(4) Pan fo hadau’n cael eu marchnata fel hadau o safon wirfoddol uwch rhaid i’r label gynnwys y llythrennau “HVS”.
Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau porthiant
13. Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau porthiant gynnwys—
(a) ar gyfer hadau ardystiedig o’r ail genhedlaeth a chenedlaethau dilynol, y nifer o genedlaethau ar ôl hadau sylfaenol;
(b) yn achos hadau o amrywogaethau glaswellt, na chynhaliwyd unrhyw archwiliad swyddogol o’u gwerth o ran eu tyfu a’u defnyddio, y geiriau “Not intended for fodder production”;
(c) os yw’r hadau’n cael eu marchnata ar y safon wirfoddol uwch, y llythrennau “HVS”.
Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau olew a ffibr
14.—(1)(1) Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau olew a ffibr
sylfaenol o amrywogaethau sy’n hybridiau neu’n
llinellau mewnfrid gynnwys—
(a) ar gyfer hadau sylfaenol pan fo’r hybrid neu’r llinell fewnfrid y mae’r hadau yn perthyn iddo neu iddi wedi ei dderbyn, neu wedi ei derbyn, ar Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin, yr enw y’i derbyniwyd yn swyddogol odano, gyda chyfeiriad at yr amrywogaeth derfynol neu hebddo, ac os bwriedir yr hadau i’w defnyddio yn unig fel cydran ar gyfer amrywogaethau terfynol, y gair “component”;
(b) ar gyfer hadau sylfaenol mewn achosion eraill, enw’r gydran y mae’r hadau sylfaenol yn perthyn iddi, y caniateir ei roi ar ffurf cod, ynghyd â chyfeiriad at yr amrywogaeth derfynol, gan gyfeirio neu beidio at ei swyddogaeth (gwryw neu fenyw) ynghyd â’r gair “component”.
(2) Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau olew a ffibr ardystiedig (CS, C1 neu C2) o amrywogaethau sy’n hybridiau neu’n llinellau mewnfrid gynnwys y gair “hybrid” ar ôl yr amrywogaeth.
(3) Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau ardystiedig uniad amrywogaethol fod o liw glas, gyda streipen werdd groeslinol ar ei draws.
15. Label cyflenwr yw label nas darparwyd gan Weinidogion Cymru.
16. Rhaid i label cyflenwr naill ai gael ei gysylltu â’r pecyn yn yr un modd â label swyddogol neu gael ei argraffu’n annileadwy ar y pecyn.
Cyfeiriadau at bwysau yn y Rhan hon
17. Yn y Rhan hon, nid yw’r cyfeiriadau at bwysau yn cynnwys unrhyw blaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill.
Hadau bridiwr: labeli cyflenwr
18.—(1)(1) Rhaid i’r canlynol ymddangos ar label cyflenwr ar
becyn o hadau bridiwr—
(a) enw, cyfeiriad a rhif cofrestru’r cyflenwr sy’n gyfrifol am osod y label;
(b) rhif cyfeirnod y lot hadau;
(c) y rhywogaeth;
(ch) yr amrywogaeth;
(d) y geiriau “breeder’s seed”;
(dd) y pwysau net neu gros datganedig neu’r nifer datganedig o hadau.
(2) Rhaid i’r label fod o liw llwydfelyn.
19.—(1)(1) Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau
betys.
(2) Pecyn bach o hadau betys (a adwaenir fel “pecyn UE bach” (“small EU package”)) yw pecyn sydd—
(a) yn achos hadau betys sylfaenol ac ardystiedig o amrywogaethau trachywir neu uneginol, naill ai’n pwyso dim mwy na 2.5 kg neu’n cynnwys dim mwy na 100,000 o glystyrau;
(b) ar gyfer yr holl hadau betys eraill, yn pwyso dim mwy na 10kg.
(3) Rhaid i’r label fod o’r un lliw â’r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.
(4) Rhaid i’r canlynol ymddangos ar y label—
(a) y geiriau “Small EU package”;
(b) enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy’n gosod y label;
(c) y rhif cyfresol;
(ch) y gwasanaeth a ddyrannodd y rhif cyfresol;
(d) enw neu flaenlythrennau’r Aelod-wladwriaeth;
(dd) y rhif cyfeirnod os nad yw’r rhif cyfresol swyddogol yn caniatáu adnabod y lot;
(e) y rhywogaeth;
(f) naill ai “sugar beet” neu “fodder beet” fel y bo’n briodol;
(ff) yr amrywogaeth;
(g) y categori;
(ng) y pwysau net neu gros neu’r nifer o glystyrau neu hadau pur;
(h) pan ddynodir y pwysau ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o’r gymhareb rhwng pwysau’r clystyrau neu’r hadau pur a chyfanswm y pwysau;
(i) naill ai “monogerm” neu “precision” fel y bo’n briodol.
20.—(1)(1) Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau
ŷd.
(2) Pecyn bach o hadau ŷd yw pecyn o unrhyw hadau ardystiedig, neu unrhyw gymysgedd o hadau ardystiedig, nad yw’n fwy na 15kg.
(3) Rhaid i’r label fod o’r un lliw â’r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.
(4) Rhaid i’r canlynol ymddangos ar y label—
(a) y geiriau “EU rules and standards”;
(b) enw, cyfeiriad a rhif cofrestru’r cyflenwr sy’n gyfrifol am osod y label;
(c) rhif cyfeirnod y lot hadau;
(ch) y rhywogaeth;
(d) yr amrywogaeth;
(dd) y categori;
(e) y pwysau datganedig net neu’r nifer datganedig o hadau;
(f) ar gyfer amrywogaethau hybrid o indrawn, y gair “hybrid”;
(ff) yn achos hadau C1 ac C2 o haidd noeth, y geiriau “minimum germination capacity 75%”.
Hadau porthiant (amaethyddol neu amwynderol): pecynnau y caniateir eu labelu gyda label cyflenwr
21.—(1)(1) Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau
porthiant amaethyddol neu amwynderol (gan gynnwys cymysgedd o hadau
porthiant).
(2) Mae pecyn bach o hadau porthiant naill ai’n becyn UE bach ‘A’ neu’n becyn UE bach ‘B’.
(3) Pecyn UE bach ‘A’ yw pecyn sy’n cynnwys cymysgedd o hadau nas bwriedir ar gyfer cynhyrchu planhigion porthiant, ac sydd â’i bwysau net yn ddim mwy na 2kg.
(4) Pecyn UE bach ‘B’ yw pecyn sy’n cynnwys—
(a) hadau sylfaenol,
(b) hadau ardystiedig (CS, C1 neu C2),
(c) hadau masnachol, neu
(ch) (onid yw’r pecyn yn becyn UE bach ‘A’) cymysgedd o hadau,
ac sydd â’i bwysau net yn ddim mwy na 10 kg.
Hadau porthiant ac eithrio cymysgedd: gofynion labelu
22.—(1)(1) Rhaid i label cyflenwr ar becyn bach o hadau porthiant
(ac eithrio cymysgedd cadwraeth, fel y gweler ym mharagraff 23) fod
o’r un lliw â’r label swyddogol ar gyfer y
categori hwnnw o hadau.
(2) Rhaid i’r canlynol ymddangos ar y label—
(a) y geiriau “small EU ‘B’ package”;
(b) enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy’n gosod y label;
(c) y rhif cyfresol;
(ch) y rhif cyfeirnod os nad yw’r rhif cyfresol yn caniatáu adnabod y lot hadau;
(d) y rhywogaeth;
(dd) pwysau net neu gros yr hadau pur neu nifer yr hadau pur;
(e) os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o’r gymhareb rhwng pwysau’r hadau a chyfanswm y pwysau;
(f) yn achos hadau ardystiedig—
(i) yr amrywogaeth;
(ii) y categori;
(iii) ar gyfer hadau glaswellt o amrywogaeth nad yw archwiliad o’i gwerth o ran ei thyfu a’i defnyddio yn ofynnol, y geiriau “not intended for the production of fodder plants”;
(ff) yn achos hadau masnachol, y geiriau “commercial seed”.
Cymysgedd o hadau porthiant: gofynion labelu
23.—(1)(1) Rhaid i label cyflenwr ar becyn bach o gymysgedd o hadau
porthiant fod o’r un lliw â’r label swyddogol ar
gyfer y categori hwnnw o hadau.
(2) Rhaid i’r canlynol ymddangos ar y label—
(a) y geiriau “small EU ‘A’ package” neu “small EU ‘B’ package” fel y bo’n briodol;
(b) enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy’n gosod y label;
(c) ar gyfer pecyn UE bach ‘A’—
(i) y rhif cyfeirnod sy’n caniatáu adnabod y lotiau o hadau a ddefnyddiwyd yn y cymysgedd;
(ii) enw neu flaenlythrennau’r Aelod-wladwriaeth;
(ch) ar gyfer pecyn UE bach ‘B’—
(i) y rhif cyfresol a ddyroddwyd yn swyddogol;
(ii) y person a ddyrannodd y rhif cyfresol;
(iii) enw neu flaenlythrennau’r Aelod-wladwriaeth;
(iv) y rhif cyfeirnod os nad yw’r rhif cyfresol swyddogol yn caniatáu adnabod y lotiau o hadau a ddefnyddiwyd;
(d) y geiriau “Seed-mixture for … (y defnydd a fwriedir)”;
(dd) y pwysau net neu gros neu nifer yr hadau pur;
(e) os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o’r gymhareb rhwng pwysau’r hadau a chyfanswm y pwysau;
(f) y canrannau, yn ôl pwysau, o’r gwahanol gydrannau, sydd i’w dangos fesul rhywogaeth, a phan fo’n briodol, fesul amrywogaeth.
(3) Ond ar gyfer cymysgeddau a gofrestrwyd gyda Gweinidogion Cymru, os yw’r label yn dangos enw cofrestredig y cymysgedd, caniateir hepgor y canrannau yn ôl pwysau o bob un o’r cydrannau, ar yr amod—
(a) y cyflenwir yr wybodaeth honno i’r cwsmer os gofynnir amdani, a
(b) y rhoddir gwybod i gwsmeriaid y cânt ofyn am y manylion hynny.
Hadau olew a ffibr: labeli cyflenwr
24.—(1)(1) Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau olew
a ffibr.
(2) Pecyn bach o hadau olew a ffibr yw pecyn o unrhyw hadau olew a ffibr ardystiedig neu fasnachol, nad yw ei bwysau’n fwy na 15 kg.
(3) Rhaid i’r label fod o’r un lliw â’r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.
(4) Rhaid i’r canlynol ymddangos ar y label—
(a) y geiriau “EU Rules and standards”;
(b) enw, cyfeiriad a rhif cofrestru’r cyflenwr sy’n gyfrifol am osod y label;
(c) rhif cyfeirnod y lot hadau;
(ch) y rhywogaeth (rhaid defnyddio’r enw botanegol, naill ai’n llawn neu yn ei ffurf gryno);
(d) yr amrywogaeth;
(dd) ar gyfer hadau ardystiedig, y categori;
(e) ar gyfer hadau masnachol, y geiriau “commercial seed (not certified as to variety)”;
(f) pwysau datganedig net neu gros clystyrau o hadau pur (ac eithrio ar gyfer pecynnau nad ydynt yn fwy na 500 gram);
(ff) os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o’r gymhareb rhwng pwysau’r hadau a chyfanswm y pwysau.
Hadau llysiau: labeli cyflenwr
25.—(1)(1) Ceir defnyddio label cyflenwr ar—
(a) pecyn o hadau llysiau safonol, beth bynnag fo’i bwysau;
(b) pecyn bach o hadau llysiau ardystiedig (CS); ac
(c) pecyn bach o gymysgeddau o hadau llysiau safonol o wahanol amrywogaethau o’r un rhywogaeth.
(2) Pecyn bach yw pecyn o hadau sy’n pwyso dim mwy nag—
(a) ar gyfer codlysiau, 5 kg;
(b) ar gyfer merllys, betys coch, moron, dail betys neu fetys ysbigoglys, gowrdiau, maros, nionod, radis, ysbigoglys neu faip, 500 gram;
(c) ar gyfer unrhyw rywogaeth arall o lysiau, 100 gram.
(3) Rhaid i’r label fod o liw melyn tywyll ar gyfer hadau safonol neu las ar gyfer hadau ardystiedig.
(4) Rhaid i’r canlynol ymddangos ar label pecyn o hadau safonol (ac eithrio cymysgedd o wahanol amrywogaethau o hadau safonol o’r un rhywogaeth) a hadau ardystiedig—
(a) y geiriau “EU rules and standards”;
(b) enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy’n gosod y label;
(c) y flwyddyn farchnata pan seliwyd y pecyn neu pan wnaed yr archwiliad egino diwethaf (ceir dynodi diwedd y flwyddyn farchnata);
(ch) y rhywogaeth;
(d) yr amrywogaeth;
(dd) y categori: yn achos pecynnau bach, ceir marcio hadau ardystiedig gyda’r llythyren ‘C’ neu ‘Z’ a hadau safonol gyda’r llythrennau ‘ST’;
(e) yn achos hadau safonol, y rhif cyfeirnod a roddwyd gan y person sy’n gyfrifol am osod y labeli;
(f) yn achos hadau ardystiedig y rhif cyfeirnod sy’n caniatáu adnabod y lot ardystiedig;
(ff) y pwysau net neu gros datganedig neu’r nifer datganedig o hadau, ac eithrio ar gyfer pecynnau bach o hyd at 500 gram;
(g) pan ddynodir y pwysau ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o’r gymhareb rhwng pwysau’r clystyrau neu’r hadau pur a chyfanswm y pwysau.
(5) Rhaid i’r canlynol ymddangos ar y label ar becyn o gymysgedd o wahanol amrywogaethau o hadau safonol o’r un rhywogaeth—
(a) y geiriau “EU rules and standards”;
(b) enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy’n gosod y label;
(c) y flwyddyn y seliwyd y pecyn, a fynegir fel “sealed...[blwyddyn]” neu flwyddyn y samplu diwethaf at ddibenion y prawf egino diwethaf a fynegir fel “sampled...[blwyddyn]” (ceir ychwanegu’r geiriau “use before...[dyddiad]”);
(ch) y geiriau “mixture of varieties of...[enw’r rhywogaeth]”;
(d) yr amrywogaethau;
(dd) y gyfran o’r amrywogaethau, a fynegir fel y pwysau net neu fel y nifer o hadau;
(e) y rhif cyfeirnod a roddwyd gan y person sy’n gyfrifol am osod y labeli;
(f) y pwysau net neu gros neu nifer yr hadau;
(ff) os nodir y pwysau ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o’r gymhareb rhwng pwysau’r clystyrau neu’r hadau pur a chyfanswm y pwysau.
RHAN 5
26.—(1)(1) Ceir gwerthu hadau rhydd (heb eu pecynnu) yn unol
â’r paragraff hwn.
(2) Y meintiau mwyaf y caniateir eu gwerthu yw—
(a) ar gyfer hadau porthiant—
(i) 3 kg yn achos ffa’r maes a phys y maes;
(ii) 2 kg yn achos yr holl hadau porthiant eraill;
(iii) 7 kg yn achos cymysgedd o hadau;
(b) ar gyfer hadau ŷd, 5 kg;
(c) ar gyfer hadau betys, 2.5 kg;
(ch) ar gyfer hadau olew a ffibr, 5 kg;
(d) ar gyfer hadau llysiau—
(i) 3 kg yn achos codlysiau;
(ii) 1 kg yn achos yr holl hadau llysiau eraill.
(3) Rhaid i’r gwerthiant fod i’r defnyddiwr terfynol, a rhaid i’r wybodaeth a fyddai wedi bod yn ofynnol ar becyn o’r hadau hynny gael ei harddangos yn agos at y man gwerthu.
Eithriadau
RHAN 1
Cyflenwi hadau ac eithrio drwy farchnata
1. Lluosi hadau yn gynnar
2. Hadau fel y’u tyfir
3. Hadau a arbedir ar fferm
RHAN 2
Marchnata hadau nad ydynt yn cydymffurfio ag Atodlen 2
4. Hadau â datganiad egino is
5. Symud hadau yn gynnar
6. Profion tetrasoliwm ar gyfer hadau ŷd
7. Marchnata hadau o amrywogaethau cadwraeth
8. Marchnata cymysgeddau cadwraeth sy’n cynnwys hadau porthiant anardystiedig
9. Marchnata amrywogaethau anrhestredig (ac eithrio hadau llysiau) ar gyfer profion a threialon
10. Marchnata amrywogaethau anrhestredig o hadau llysiau
11. Marchnata at ddibenion gwyddonol neu ddethol
12. Cyfyngiadau mewn perthynas â hadau a addaswyd yn enetig
13. Marchnata hadau a fewnforiwyd sydd i’w labelu fel HVS
14. Marchnata hadau a ardystiwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall
15. Marchnata hadau o amrywogaethau llysiau amatur
RHAN 3
Ardystio hadau nad ydynt yn cydymffurfio’n llawn â’r Rheoliadau hyn
16. Hadau nad ydynt wedi eu hardystio yn derfynol, a gynaeafwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall
17. Hadau nad ydynt wedi eu hardystio yn derfynol, a gynaeafwyd mewn trydedd wlad
18. Estyniadau marchnata
Cyflenwi hadau ac eithrio drwy farchnata
Lluosi hadau yn gynnar
1.—(1)(1) Caniateir i hadau o amrywogaeth anrhestredig gael eu
cyflenwi gan berson, a drwyddedwyd i farchnata hadau ar gyfer eu
lluosi, i’w gyrru ymlaen drwy’r categorïau o
wahanol genedlaethau o hadau.
(2) Rhaid i bob cenhedlaeth o hadau a gyflenwir fod wedi cyrraedd y safon sy’n ofynnol ar gyfer ardystio.
(3) Rhaid i’r hadau a gynhyrchir barhau’n eiddo i’r person trwyddedig, ac ni cheir eu marchnata.
Hadau fel y’u tyfir
2. Caniateir i hadau fel y’u tyfir gael eu hanfon gan y tyfwr i’w glanhau cyn eu hardystio, ac at gorff profi neu gorff archwilio at ddibenion ardystio.
Hadau a arbedir ar fferm
3. Y person a’u tyfodd, yn unig, gaiff ddefnyddio hadau a arbedir ar fferm, ac ni cheir eu marchnata na’u cyflenwi i neb arall, ond caniateir eu hanfon i’w glanhau, ar yr amod bod y person sy’n eu glanhau yn dychwelyd yr hadau i gyd i’r daliad lle’u tyfwyd.
Marchnata hadau nad ydynt yn cydymffurfio ag Atodlen 2
Hadau â datganiad egino is
4.—(1)(1) Ceir marchnata hadau cyn-sylfaenol a hadau sylfaenol
sydd â chanran safon egino lleiaf sy’n is na’r
hyn sy’n ofynnol gan y Gyfarwyddeb mewn perthynas
â’r hadau hynny a bennir yn Atodlen 2, ar yr amod bod y
cyflenwr yn gwarantu canran egino lleiaf benodol.
(2) Rhaid datgan yr egino ar y label swyddogol ynghyd ag enw a chyfeiriad y cyflenwr a rhif cyfeirnod y lot hadau.
Symud hadau yn gynnar
5.—(1)(1) Er mwyn sicrhau bod hadau ar gael yn gynnar, ceir
marchnata hadau cyn-sylfaenol, sylfaenol ac ardystiedig cyn cael y
canlyniad swyddogol ynglŷn â’r
egino—
(a) os dyroddwyd adroddiad prawf hadau o dan y Rheoliadau hyn sy’n dynodi bod yr hadau wedi cyrraedd y safon purdeb dadansoddol ofynnol lleiaf a nodir yn y Gyfarwyddeb mewn perthynas â’r hadau hynny a bennir yn Atodlen 2, a
(b) os yw’r cyflenwr yn gwarantu’r egino lleiaf ar gyfer yr hadau hynny.
(2) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys yn achos hadau a fewnforiwyd o drydedd wlad.
Profion tetrasoliwm ar gyfer hadau ŷd
6. Ceir marchnata hadau ŷd os cynhaliwyd prawf tetrasoliwm arnynt a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i ganfod hyfywedd yr hadau, yn lle’r profion a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd([33]).
Marchnata hadau o amrywogaethau cadwraeth
7.—(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau
amrywogaeth gadwraeth yn unol â’r paragraff
hwn.
(2) Rhaid i’r hadau fod yn hadau amrywogaeth a restrwyd fel amrywogaeth gadwraeth yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig.
(3) Rhaid cynhyrchu’r hadau o gnwd a dyfir yn y rhanbarth a bennir fel tarddle’r amrywogaeth yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, neu fel yr awdurdodir gan Weinidogion Cymru.
(4) Ni cheir marchnata a defnyddio’r hadau ac eithrio yn y rhanbarth a ddatgenir fel y tarddle.
(5) Rhaid cyfyngu ar gyfanswm yr hadau sy’n cael eu marchnata mewn unrhyw un flwyddyn yn unol ag Erthygl 14 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC([34]) (sy’n ymwneud ag amrywogaethau cadwraeth amaethyddol) ac Erthygl 15 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC ac Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno([35]) (sy’n ymwneud ag amrywogaethau cadwraeth o lysiau).
(6) Ac eithrio yn achos hadau amrywogaeth gadwraeth o lysieuyn a wiriwyd fel hadau safonol, rhaid i’r hadau fod yn ddisgynyddion hadau a gynhyrchwyd yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth.
(7) Yn achos hadau betys, hadau ŷd, hadau planhigion porthiant a hadau olew a ffibr, rhaid i’r hadau gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer ardystio hadau ardystiedig a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC([36]) (hadau betys), Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC (hadau ŷd), Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC([37]) (hadau planhigion porthiant) neu Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC([38]) (hadau planhigion olew a ffibr) (yn ôl fe y digwydd), ac eithrio’r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol ac archwilio.
(8) Rhaid i hadau llysiau gydymffurfio ag—
(a) y gofynion ar gyfer ardystio hadau ardystiedig, a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC([39]) ar farchnata hadau llysiau, ac eithrio’r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol ac archwilio; neu
(b) y gofynion ar gyfer marchnata hadau safonol a bennir yn y Gyfarwyddeb honno, ac eithrio’r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol.
(9) Rhaid i burdeb amrywogaethol hadau amrywogaeth gadwraeth fod yn ddigonol.
(10) Rhaid peidio â gwerthu’r hadau fel hadau rhydd o dan baragraff 26 o Atodlen 3.
(11) Rhaid labelu’r hadau gyda label cyflenwr neu hysbysiad printiedig neu stampiedig sydd, yn ychwanegol at gydymffurfio â darpariaethau cymwys y paragraff o Ran 4 o Atodlen 3 sy’n gymwys i’r math o hadau dan sylw (ac eithrio’r darpariaethau sy’n pennu lliw’r label)—
(a) yn cynnwys—
(i) yn achos amrywogaeth gadwraeth amaethyddol, y geiriau “conservation variety”, neu
(ii) yn achos amrywogaeth gadwraeth o lysieuyn, y geiriau “certified seed of a conservation variety” neu “standard seed of a conservation variety”;
(b) yn datgan rhanbarth y tarddiad; ac
(c) o liw brown.
(12) Yn y paragraff hwn, mae i “amrywogaeth gadwraeth” yr ystyr a roddir i “conservation variety” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001([40]).
Marchnata cymysgeddau cadwraeth sy’n cynnwys hadau porthiant anardystiedig
8.—(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata cymysgeddau
cadwraeth yn unol â’r paragraff hwn.
(2) Rhaid i gais am awdurdodiad gael ei wneud gan y cynhyrchwr, a rhaid i’r cais gynnwys—
(a) yr wybodaeth a restrir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU, fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 4(3) o’r Gyfarwyddeb honno, a
(b) pa bynnag wybodaeth arall a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru i wirio cydymffurfiaeth ag Erthygl 5 o’r Gyfarwyddeb honno (yn achos cymysgeddau cadwraeth a gynaeafir yn uniongyrchol) ac Erthygl 6 o’r Gyfarwyddeb honno (yn achos cymysgeddau cadwraeth a dyfir fel cnwd).
(3) O ran awdurdodiad—
(a) ni cheir ei roi oni fydd y cymysgedd cadwraeth yn cydymffurfio ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU (yn achos cymysgeddau cadwraeth a gynaeafir yn uniongyrchol) neu Erthygl 6 o’r Gyfarwyddeb honno (yn achos cymysgeddau cadwraeth a dyfir fel cnwd),
(b) ni cheir ei roi ac eithrio ar gyfer marchnata cymysgedd cadwraeth yn rhanbarth ei darddiad, fel y’i penderfynir gan Weinidogion Cymru yn unol ag Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU,
(c) ni cheir ei roi ar gyfer cymysgedd cadwraeth sy’n cynnwys amrywogaeth gadwraeth onid yw’r amrywogaeth honno’n cydymffurfio â gofynion paragraff 7, is-baragraffau (1) i (7), (9) a (10); ac
(ch) rhaid iddo bennu’r materion a restrir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU, fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 4(3) o’r Gyfarwyddeb honno.
(4) Rhaid labelu’r hadau gyda label cyflenwr pinc neu hysbysiad printiedig neu stampiedig sydd, yn hytrach na chynnwys yr wybodaeth labelu ar gyfer cymysgeddau o hadau a bennir yn Atodlen 3, yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol—
(a) y geiriau “EU rules and standards”;
(b) enw a chyfeiriad, neu farc adnabod, y person sy’n gosod y labeli;
(c) y dull o gynaeafu;
(ch) blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed...” (blwyddyn);
(d) rhanbarth y tarddiad;
(dd) yr ardal ffynhonnell;
(e) y safle casglu;
(f) y math o gynefin yn y safle casglu;
(ff) y geiriau “preservation seed mixture”;
(g) rhif cyfeirnod y lot, a roddwyd gan y person a osododd y labeli;
(ng) yn achos cymysgeddau cadwraeth a dyfwyd fel cnwd—
(i) y ganran yn ôl pwysau o’r cydrannau fesul rhywogaeth, a phan fo’n berthnasol, fesul is-rywogaeth;
(ii) y gyfradd egino benodol ar gyfer y cydrannau hadau porthiant yn y cymysgedd nad ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion egino a bennir ym mharagraff 28(2) o Atodlen 2 (ac eithrio pan fo’r cymysgedd yn cynnwys mwy na phump o gydrannau hadau porthiant o’r fath, ac os felly, ceir defnyddio’r gyfradd egino gyfartalog ar gyfer y cydrannau hynny);
(h) yn achos cymysgeddau cadwraeth a gynaeafir yn uniongyrchol, y ganran yn ôl pwysau, fel rhywogaeth a phan fo’n berthnasol, fel is-rywogaeth, o’r cydrannau hynny sy’n nodweddiadol o’r math o gynefin yn y safle casglu ac sydd, fel cydrannau o’r cymysgedd, yn bwysig o ran diogelu’r amgylchedd naturiol yng nghyd-destun cadwraeth yr adnoddau genetig;
(i) y pwysau net neu gros datganedig; ac
(l) os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o’r gymhareb rhwng pwysau’r clystyrau neu’r hadau pur a chyfanswm y pwysau.
(5) Rhaid i gyfanswm pwysau’r hadau yr awdurdodir eu marchnata bob blwyddyn beidio â bod yn fwy na 5% o gyfanswm pwysau’r cymysgeddau hadau porthiant sy’n cael eu marchnata yn y Deyrnas Unedig yn ystod yr un flwyddyn.
(6) Yn y paragraff hwn, mae i “amrywogaeth gadwraeth” yr ystyr a roddir i “conservation variety” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001.
(7) Mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU yr un ystyron yn y paragraff hwn ag sydd i’r cyfystyron hynny yn y Gyfarwyddeb honno.
Marchnata amrywogaethau anrhestredig (ac eithrio hadau llysiau) ar gyfer profion a threialon
9.—(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau pan
fo cais i’w cofnodi yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig
wedi ei gyflwyno, ond hyd hynny heb ei ganiatáu.
(2) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hadau llysiau (ymdrinnir â hadau llysiau yn y paragraff dilynol).
(3) Rhaid i geisydd fod yn gynhyrchwr sefydledig yng Nghymru.
(4) Mae awdurdodiad yn ddilys am un flwyddyn ac yn adnewyddadwy.
(5) Bydd awdurdodiad yn annilys unwaith yr ychwanegir yr amrywogaeth at Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, neu y tynnir y cais i’w rhestru yn ôl neu y gwrthodir y cais.
(6) Ni chaiff neb ofyn am awdurdodiad ac eithrio’r person a gyflwynodd gais am gofnodi’r amrywogaethau dan sylw yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig.
(7) Ni cheir rhoi awdurdodiad ac eithrio ar gyfer cynnal profion neu dreialon mewn mentrau amaethyddol, er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn â thyfu neu ddefnyddio’r amrywogaeth.
(8) Rhaid i’r meintiau a awdurdodir ar gyfer pob amrywogaeth beidio â bod yn fwy na’r canrannau canlynol o hadau o’r un rhywogaeth a ddefnyddir yn flynyddol yn y Deyrnas Unedig—
(a) yn achos gwenith caled: 0.05 %,
(b) yn achos pys maes, ffa maes, ceirch, haidd a gwenith: 0.3 %,
(c) ym mhob achos arall: 0.1 %,
ac eithrio, os yw meintiau o’r fath yn annigonol ar gyfer hau 10 hectar, ceir awdurdodi’r maint sydd ei angen ar gyfer arwynebedd o’r fath.
(9) Rhaid i hadau porthiant gydymffurfio â’r amodau ar gyfer—
(a) hadau ardystiedig (pob rhywogaeth ac eithrio pys maes a ffa maes); neu
(b) hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (pys maes a ffa maes).
(10) Rhaid i hadau ŷd gydymffurfio â’r amodau ar gyfer—
(a) hadau ardystiedig (rhyg, indrawn a hybridiau o geirch a cheirch coch, haidd, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen a rhygwenith ac eithrio amrywogaethau hunanbeilliol); neu
(b) hadau ardystiedig, ail genhedlaeth ceirch a cheirch coch, haidd, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen ac amrywogaethau hunanbeilliol o rygwenith, ac eithrio hybridiau ym mhob achos.
(11) Rhaid i hadau betys gydymffurfio â’r amodau ar gyfer hadau ardystiedig.
(12) Rhaid i hadau planhigion olew a ffibr gydymffurfio â’r amodau ar gyfer—
(a) hadau ardystiedig (pob rhywogaeth ac eithrio llin a had llin);
(b) hadau ardystiedig, ail a thrydedd genhedlaeth (llin a had llin).
(13) Rhaid labelu’r pecyn gyda label oren, y mae’n rhaid iddo gynnwys y geiriau “variety not yet officially listed; for tests and trials only” a phan fo’n gymwys “genetically modified variety” yn ychwanegol at y gofynion labelu eraill yn y Rheoliadau hyn.
Marchnata amrywogaethau anrhestredig o hadau llysiau
10.—(1)(1) At y diben o gasglu gwybodaeth a phrofiad ymarferol o
amrywogaeth yn ystod y cyfnod tyfu, caiff Gweinidogion Cymru
awdurdodi marchnata hadau llysiau nad ydynt wedi eu rhestru yn
Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, ar yr amod bod cais wedi ei
wneud i’w cofnodi yn Rhestr Genedlaethol un Aelod-wladwriaeth
o leiaf.
(2) Mae awdurdodiad yn ddilys am un flwyddyn ac yn adnewyddadwy ddwywaith am gyfnod na fydd yn hwy nag un flwyddyn yn dilyn pob adnewyddiad.
(3) Nid oes cyfyngiadau meintiol ar y meintiau y ceir eu hawdurdodi.
(4) Ni chaiff neb ofyn am awdurdodiad ac eithrio’r person a gyflwynodd gais am gofnodi’r amrywogaethau dan sylw yn y Rhestr Genedlaethol berthnasol.
(5) Rhaid labelu’r pecyn gyda label oren, ac y mae’n rhaid iddo gynnwys y geiriau “Variety not yet officially listed” yn ychwanegol at y gofynion labelu eraill yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio nad oes raid i enw’r awdurdod sy’n ardystio ymddangos, nac ychwaith wlad y tarddiad).
(6) Rhaid i’r person sy’n marchnata’r hadau—
(a) dal gafael mewn sampl o bob lot hadau sy’n cael ei farchnata, a’i chadw am ddwy flynedd o leiaf;
(b) cofnodi, ar gyfer pob gwerthiant, enw a chyfeiriad y prynwr, a chadw’r cofnod am dair blynedd o leiaf.
Marchnata at ddibenion gwyddonol neu ddethol
11.—(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi cynhyrchwr i roi ar y
farchnad feintiau bach o hadau (ac eithrio hadau llysiau) at ddibenion gwyddonol neu
ddethol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad pa un a yw’r amrywogaeth wedi ei rhestru yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin ai peidio.
(3) Rhaid i geisydd am awdurdodiad fod yn gynhyrchwr sydd wedi ymsefydlu yng Nghymru.
(4) Rhaid labelu’r pecyn gyda label oren, ac y mae’n rhaid iddo gynnwys y geiriau “Variety not yet officially listed” (os yw hynny’n wir) yn ychwanegol at ofynion labelu eraill y Rheoliadau hyn.
(5) Rhaid i’r person sy’n marchnata’r hadau—
(a) dal gafael mewn sampl o bob lot hadau sy’n cael ei farchnata, a’i chadw am ddwy flynedd o leiaf;
(b) cofnodi, ar gyfer pob gwerthiant, enw a chyfeiriad y prynwr, a chadw’r cofnod am dair blynedd o leiaf.
Cyfyngiadau mewn perthynas â hadau a addaswyd yn enetig
12. Ni chaiff Gweinidogion Cymru ganiatáu awdurdodiad o dan baragraffau 8 i 11 mewn perthynas â hadau amrywogaeth a addaswyd yn enetig, ac eithrio pan fo marchnata a gollwng y deunydd a addaswyd yn enetig gan y ceisydd ar gyfer ei dyfu wedi ei awdurdodi o dan naill ai—
(a) Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (ar ollwng i’r amgylchedd yn fwriadol organebau a addaswyd yn enetig([41])), neu
(b) Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 (ar fwyd a phorthiant a addaswyd yn enetig([42])).
Marchnata hadau a fewnforiwyd sydd i’w labelu fel HVS
13.—(1)(1) Ceir marchnata hadau a ardystiwyd mewn Aelod-wladwriaeth
arall, neu mewn trydedd wlad, fel hadau sy’n cyrraedd safon
wirfoddol uwch yn unol â’r paragraff hwn.
(2) Rhaid cyflwyno sampl i Weinidogion Cymru i’w brofi, ac os bodlonir Gweinidogion Cymru bod y sampl yn cyrraedd y safon wirfoddol uwch, rhaid iddynt ddyroddi tystysgrif sy’n cadarnhau hynny.
(3) Rhaid ail-labelu’r hadau gan ddefnyddio—
(a) label swyddogol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru os yw’r hadau yn dod o Aelod-wladwriaeth arall, neu
(b) label y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) os yw’r hadau yn dod o drydedd wlad,
ac yn y ddau achos, rhaid datgan ar y label enw’r wlad y cynhyrchwyd yr hadau ynddi.
(4) Yn achos hadau a fewnforir tra’n aros i’w cynnwys yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, neu hadau nas ardystiwyd yn derfynol yn y wlad lle’u cynhyrchwyd, ceir gwirio eu bod yn cyrraedd y safon wirfoddol uwch ac yna eu hailraddio, ar ôl eu rhestru neu’u hardystio’n derfynol.
Marchnata hadau a ardystiwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall
14. Ceir marchnata hadau a ardystiwyd yn llawn ac a labelwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall heb unrhyw ardystiad pellach o dan y Rheoliadau hyn.
Marchnata hadau o amrywogaethau llysiau amatur
15.—(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau o
amrywogaeth llysiau amatur yn unol â’r paragraff
hwn.
(2) Rhaid i’r hadau fod o amrywogaeth a restrir fel amrywogaeth o lysiau amatur yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig.
(3) Rhaid i’r hadau gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer marchnata hadau safonol a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC([43]) ar farchnata hadau llysiau, ac eithrio’r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol.
(4) Rhaid i’r hadau fod â phurdeb amrywogaethol digonol.
(5) Rhaid marchnata’r hadau mewn pecynnau bach nad yw eu pwysau net yn fwy na’r pwysau net a bennir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC([44]) (sy’n ymwneud ag amrywogaethau llysiau amatur).
(6) Rhaid labelu’r hadau gyda label cyflenwr neu hysbysiad printiedig neu stampiedig sydd, yn ogystal â chydymffurfio â darpariaethau cymwys paragraff 25 o Atodlen 3, yn cynnwys y geiriau “amateur variety”.
(7) Yn y rheoliad hwn, mae i “amrywogaeth llysiau amatur” yr ystyr a roddir i “amateur vegetable variety” gan reoliad 5A(5) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001([45]).
Ardystio hadau nad ydynt yn cydymffurfio’n llawn â’r Rheoliadau hyn
Hadau nad ydynt wedi eu hardystio’n derfynol, a gynaeafwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall
16.—(1)(1) Yn achos hadau—
(a) sydd wedi eu cynhyrchu—
(i) yn uniongyrchol o hadau sylfaenol neu hadau ardystiedig o’r genhedlaeth gyntaf, a ardystiwyd yn swyddogol naill ai mewn Aelod-wladwriaeth arall neu mewn trydedd wlad y caniatawyd cywerthedd iddi o dan y Gyfarwyddeb, mewn perthynas â’r hadau hynny, a bennir yn Atodlen 2 neu
(ii) drwy groesi hadau sylfaenol a ardystiwyd mewn Aelod-wladwriaeth gyda hadau sylfaenol a ardystiwyd mewn trydedd wlad o’r fath, a
(b) sydd wedi eu cynaeafu mewn Aelod-wladwriaeth arall,
gellir eu hardystio os yw’r hadau hynny wedi bod yn destun archwiliad maes ar gyfer y categori hwnnw o hadau, ac os yw archwiliad swyddogol wedi dangos bod yr amodau ar gyfer hadau o’r categori hwnnw wedi eu bodloni.
(2) Os yw’r hadau wedi eu cynhyrchu yn uniongyrchol o hadau a ardystiwyd yn swyddogol, o genedlaethau cynharach na hadau sylfaenol, ceir eu hardystio fel hadau sylfaenol os yw’r amodau a bennir ar gyfer y categori hwnnw wedi eu bodloni.
(3) Rhaid i’r hadau gael eu labelu gyda label llwyd sy’n dwyn yr wybodaeth ganlynol—
(a) yr awdurdod sy’n gyfrifol am yr archwiliad maes ac enw neu flaenlythrennau’r Aelod-wladwriaeth;
(b) y rhywogaeth, a ddynodir gan ei henw botanegol o leiaf, y caniateir ei roi yn ei ffurf dalfyredig heb gynnwys enwau’r awdurdodau;
(c) yr amrywogaeth (yn achos llinellau mewnfrid a hybridiau a fwriedir yn unig fel cydrannau ar gyfer amrywogaethau hybrid, rhaid ychwanegu’r gair “component”);
(ch) y categori;
(d) yn achos amrywogaethau hybrid, y gair “hybrid”;
(dd) y pwysau net neu gros datganedig;
(e) y geiriau “seed not finally certified”.
(4) Rhaid i’r hadau fynd gyda dogfen swyddogol sy’n datgan—
(a) yr awdurdod sy’n dyroddi’r ddogfen;
(b) y rhywogaeth, a ddynodir gan ei henw botanegol o leiaf, y caniateir ei roi yn ei ffurf dalfyredig heb gynnwys enwau’r awdurdodau;
(c) yr amrywogaeth;
(ch) y categori;
(d) rhif cyfeirnod yr hadau a ddefnyddiwyd i hau’r cae ac enw’r wlad a ardystiodd yr hadau;
(dd) rhif cyfeirnod y lot hadau neu’r cae;
(e) yr arwynebedd a driniwyd i gynhyrchu’r lot hadau a gwmpesir gan y ddogfen;
(f) y maint o hadau a gynaeafwyd a’r nifer o becynnau;
(ff) y nifer o genedlaethau ar ôl hadau sylfaenol, yn achos hadau ardystiedig;
(g) datganiad yn tystio bod yr amodau yr oedd yn ofynnol eu bodloni gan y cnwd y daeth yr hadau ohono wedi eu bodloni;
(ng) pan fo’n briodol, canlyniadau dadansoddiad hadau rhagarweiniol.
Hadau nad ydynt wedi eu hardystio’n derfynol, a gynaeafwyd mewn trydedd wlad
17.—(1)(1) Ceir ardystio hadau a gynaeafwyd mewn trydedd
wlad—
(a) os cynhyrchwyd hwy’n uniongyrchol—
(i) o hadau sylfaenol neu hadau ardystiedig o’r genhedlaeth gyntaf, a ardystiwyd naill ai mewn Aelod-wladwriaeth neu mewn trydedd wlad y caniatawyd cywerthedd iddi o dan Benderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gyflawnir mewn trydydd gwledydd, ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd([46]); neu
(ii) drwy groesi hadau sylfaenol a ardystiwyd yn swyddogol mewn Aelod-wladwriaeth gyda hadau sylfaenol a ardystiwyd mewn trydedd wlad o’r fath;
(b) os buont yn destun archwiliad maes yn unol â Phenderfyniad y Cyngor 2003/17/EC;
(c) os dangosodd archwiliad bod yr amodau ar gyfer hadau o’r categori hwnnw wedi eu bodloni;
(ch) os ydynt yn dod ynghyd â thystysgrif gan yr awdurdod cymwys yng ngwlad eu tarddiad, sy’n ardystio’u statws.
(2) Rhaid i’r label fod yn llwyd.
Estyniadau marchnata
18. Caiff Gweinidogion Cymru roi estyniad marchnata sy’n caniatáu cyfnod estynedig ar gyfer ardystio a marchnata hadau o amrywogaeth sydd wedi ei dileu o Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin.
([1]) 1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno, O.S. 1977/1112, ac adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49). Gweler adran 38(1) am ddiffiniad o “the Minister”. O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol, ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau, a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn trosglwyddo 1978, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
([2]) 1972 p. 68; mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).
([3]) O.S. 2001/3510, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2004/2949, 2007/1871, 2008/2683, 2009/1273, 2010/1195 a 2011/464.
([4]) OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 (OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1).
([5]) OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
([6]) OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 12, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/117/EC (OJ Rhif L 14, 18.1.2005, t. 18).
([7]) OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2309, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
([8]) OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
([9]) OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
([14]) Mae manylion am y labeli hyn ar gael ar wefan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
([28]) OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 12, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/117/EC (OJ Rhif L 14, 18.1.2005, t. 18).
([29]) OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2309, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
([30]) OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
([31]) OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
([32]) OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
([33]) OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2309, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
([36]) OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 12, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/117/EC (OJ Rhif L 14, 18.1.2005, t. 18).
([37]) OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC.
([38]) OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC.
([39]) OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC.
([40]) O.S. 2001/3510; mewnosodwyd y diffiniad o “conservation variety” gan O.S. 2009/1273 ac amnewidiwyd gan O.S. 2011/464.
([41]) OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/27/EC (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 45).
([42]) OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t. 64).